pregethau syndod a llawenydd i'r holl frawdoliaeth a mynych. y gofynnid, "Beth fydd y bachgennyn hwn?" Ond daeth y dydd iddo adael diogelwch cartref a chwmni'r saint, a gorfu iddo droi i Ddeheudir Cymru am fywoliaeth fel llawer un ar ei ôl. Yno daeth o dan ddylanwadau gwahanol iawn, ac ysywaeth, ymadawodd ei fwynder fel gwlith boreol. Cyn bo hir, medrai eistedd yn eisteddfa'r gwatwarwyr ac ennill yno yr un flaenoriaeth ag a feddai gynt yn y capel a'r gyfeillach. Ryw ddiwrnod cyrhaeddodd rhyw Cusi i Lanbrynmair gyda'r newydd fod hwn a hwn wedi troi'n fachgen drwg, ac O! 'r prudd-der a daflwyd dros feddyliau ei gyfoedion, a hen gyfeillion ei fam a'i dad. Ond nid oedd dim i'w wneud ond cusanu gofid a gweddïo. Arhoswch funud, yr oedd yno un a gredai y dylid gwneud ychwaneg. Un bore, fe gyfododd y gweinidog yn blygeiniol iawn, a chyfrwyodd y ferlen fach a throdd ei wyneb tua'r Deheudir. Nid oedd Cymanfa na Chwrdd Chwarter ar ei ffordd, ac nid ar bulpud yr oedd ei lygad. Beth oedd ystyr ei daith, ynteu? Wel, cofio am eiriau ei Feistr a wnaeth, a gadael y namyn un pum ugain yn y gorlan a mynd i'r anialwch ar ôl y colledig. Ar fuarth tafarn rhwng Rhymni a Thredegar fe'i canfu oddi draw. Gwelodd y bachgen yntau, ac aeth yn ddydd barn arno mewn moment. Dihangodd am ei fywyd i rywle o'r golwg. Ond nid oedd yr hen weinidog wedi marchogaeth 80 milltir a chroesi pedair sir i gymryd ei daflu ymaith mor hawdd; mynnodd afael arno, ac nid oes ond y nef a ŵyr hanes cyfarfyddiad yr afradlon a'r bugail. Beth bynnag, ni throdd John Roberts ei wyneb tuag adref nes medru cyflwyno'r colledig edifeiriol i ofal ac ymgeledd eglwys Dduw yn y lle, ac allan nid aeth ef mwyach, ond disgleiriodd fel seren dros amser byr, ac yna bu farw gan adael tystiolaeth ddiffuant fod ei gamwedd wedi ei ddileu.
O ardderchowgrwydd Cymru! Beth bynnag yw ei dyled i dywysogion y pulpud, credaf ei bod yn llawn cymaint i fugeiliaid fel John Roberts, ac y mae'r fugeiliaeth hon i raddau yng nghyrraedd pawb ohonom.
Yr wyf i yn awr ar ben. Dyma drem ar nodwedd y bobl yr ydym ni yn ddilynwyr iddynt. Efelychwn hwy gan ystyried diwedd eu hymarweddiad. Enillasant barch a gwrogaeth y byd yn y diwedd.
Ac os ewyllysiwn ninnau feddu ar ddylanwad iach a chryf ar ein hoes, y ffordd i'w gyrraedd yw bod yn ffyddlon i Grist.
(Aberangell, Hyd. 20, 1916).