ddeng well na'u holl gyd-ymgeiswyr. A ellir dweud rhywbeth yn ychwaneg amdanynt? Gellir, ychwaneg o lawer. Trowch chwi ddalen yn eich Beiblau, a chewch hanes diwrnod arall pur wahanol. Llywodraeth greulon orthrymus yn penderfynu gwasgu'r deiliaid i wadu eu hegwyddorion, i alw'r du yn wyn, a'r gwyn yn ddu, i blygu i'r eilun. Wel, a blygodd pawb? Na, fe safodd pedwar. Pwy oeddynt tybed? Y pedwar bachgen oedd ar y blaen yn yr arholiad! Er ffau'r llewod a'r ffwrn danllyd boeth, safasant yn ddigryn. A dyma a bair ein bod ni yn gallu sôn amdanynt ym Mhenegoes heddiw. Credaf fi na buasai'n werth gan yr Ysbryd Glân fframio tystysgrif eu harholiad, pe troesent yn llwfriaid ar yr ail ddydd. Yr ail ddydd a goronodd y cyntaf.
Ni ddaw peth fel yna yn union i'ch cwrdd chwi, ond bydd arnoch eisiau nerth i fedru gwrthsefyll weithiau. Oni fyddwch yn ochelgar, geill edefyn eich maglu. Fel hyn, er enghraifft: Cyfarfod Ysgolion i fod yn eich capel chwi y Sul nesaf, llawer o bryderu a pharatoi ar ei gyfer, a disgwyliad pendant am eich help chwi gyda thasg eich dosbarth. Ond nawn Sadwrn cyferfydd cyfaill â chwi ar y ffordd, a'i eiriau cyntaf fydd," Ddoi di i Aberystwyth 'fory? Bydd charabanc yn cychwyn o'r dref am unarddeg, ac y mae lot ohonom ni yn mynd. Swllt a chwech ydi o, double journey, ddoi di?" A fedrwch chi wrthsefyll yr hudoliaeth? Gwelsoch blant yr Hen Oruchwyliaeth yn sefyll yn ddewr; ai gormod a fyddai i blant y Testament Newydd. wneuthur yr un fath? Oni wnewch, fe gyll gwobr yr Arholiad Sirol ei gwerth yn eich golwg chwi a phawb arall.
Heblaw sefyll fel yna i dystiolaethu, sefwch hefyd i wasanaethu. Os cedwch eich gwybodaeth i chwi eich hunain, neu os gwariwch hi arnoch eich hunain, gellwch ddatblygu'n greaduriaid balch, beirniadol, a fydd yn cil-wenu'n wawdus wrth gamgymeriadau pobl eraill mwy anwybodus hwyrach, ond mil mwy defnyddiol na chwi. Ffrindiau, gochelwch hynyna fel angau ei hunan. Dyna'r bodau mwyaf dirmygus o dan haul y nefoedd. Nage, ond gwariwch eich gwybodaeth a'ch cyrhaeddiadau i helpu eraill. Credwch fod gan yr Eglwys a'r Ysgol Sul hawl ar eich gorau,-hawl, y mae pob gair arall yn rhy wan. Bydd eisiau Athrawon ac Athrawesau, ac Arolygwyr yn yr Ysgol Sul, cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Ysgolion, a phobl i agor y materion yno. Pan y'ch penodir chwi i'r pethau hyn a'r cyffelyb, beth bynnag a wna eraill, ufuddhewch chwi. "Pwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth?" Digon tebyg fod rhyw leisiau yn cymell Esther i fod yn llonydd, i fod yn gall a gofalu am dani ei hun. "'Does neb yn gwybod mai Iddewes wyt ti." "Nac oes, eto," meddai, "ond fe gaiff pawb wybod cyn pen ychydig oriau. Ni allaf i fod yn esmwyth yn y