Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

CANMLWYDDIANT MYNYDDOG

Mr. Llywydd,—

RHYW ogwydd i ufuddhau i'r pwyllgor yw'r unig gymhelliad i mi sefyll yma heddiw, oblegid ychydig iawn sy gennyf i'w ddweud, er mor ddiddorol yr amgylchiad. Un rheswm yw mai mewn cwr arall o'r plwyf y maged fi, a golygai chwech neu saith milltir y pryd hwnnw fwy o bellter a dieithrwch nag a wnant yn awr. Rheswm arall yw pellter amser. Ni bum erioed yn siarad â Mynyddog, ac ni welais mohono ond unwaith cyn. iddo adael Llanbrynmair. Aeth mwy na thrigain mlynedd heibio er hynny, ac y mae trigain mlynedd yn ysbaid go faith.

Cofiaf am fy nhad yn ei gyfarch gan ddweud, "Dyn braf ydech chi canu 'Hen Lanbrynmair i mi bob amser, a mynd i fyw i Gemes wedyn." "Daethwn i ddim yn wir," meddai yntau, pe cawswn i le symol cyfleus i godi tŷ yma.' Pa rwystr oedd ar y ffordd, ni wn, ond pan geisid ychydig lathenni o dir am eu llawn werth o arian ystalwm, âi pob congl mor gysegredig â gwinllan Naboth ym marn a theimlad y tirfeddianwyr. Digon posibl na chawsid caniatâd i ddodi tabled ar fur Dolydan y pryd hwnnw, pe buasai ar rywun awydd gwneud. Daw'r byd yn well mewn rhai pethau yn araf bach. Diolch i'r Cemes am dderbyn Mynyddog pan wnaeth awdurdodau ei ardal ei hun beth tebyg iawn i'w wrthod.

Gan iddo dreulio tair rhan o bedair o'i oes yn y ward uchaf, rhaid yw i un o blant y ward honno ddweud gair amdano yma heddiw. Pan grybwyllir ei enw, yr hyn a welaf fi mewn atgof, yw dyn tal, lluniaidd, goleubryd, ysgafn ei drem, hunan-feddiannol, cartrefol ymhob man, ond yn arbennig felly ym mhrifleoedd y dyrfa. Wrth gloriannu llenorion y cylch, dywedai doctoriaid ein hardal ni gynt,—

"Tafolog yn y study, Mynyddog ar y stage."

Gwaith peryglus yw cymharu, ond nid hwyrach bod y dyfarniad yna mor deg â'r cyffredin. Beth bynnag, meddai Mynyddog bob mantais i adael argraff ffafriol ar gynulleidfa,-ymddangosiad enillgar, dawn ymadrodd hynod o rwydd a pharod, adnabyddiaeth o ddynion, a medr i'w trin. O methai ef, lle gwael oedd i neb arall gynnig.

Ond nid oedd yn ddieithr i'r fyfyrgell chwaith, ac nid ofer a fu ei astudiaeth ynddi. A chaniatau nad esgynnodd i'r uchelderau, ac na ddug ef bethau dirgel allan i oleuni, dysgodd i'w ddarllenwyr lawer gwers bwysig mewn ffordd rhy eglur i'w