"CARIAD Y GWIRIONEDD"-2 Thes. ii. 10
Y MAE i'r testun amryw o ystyron, ond cymerwn ni ef i olygu "Cariad at y gwirionedd," pob gwirionedd—oddi wrth Dduw, ac ato. Na ddychrynwn rhag darganfyddiadau gwyddonwyr, ymchwilwyr, &c. "Ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb," meddai Iesu Grist. Carwn wirionedd ymhob cylch, ac o ba le bynnag y daw. Ond yn arbennig gwirionedd yr Efengyl y Beibl—Y Gwirionedd.
(a) Carwn y gwirionedd ei hun.
Nid ein rhag-dybiau ni am yr hyn a ddylai fod, na'n hesboniadau ni arno. Nid dysgeidiaeth anwadal uwch-feirniaid nac is-feirniaid amdano, na thraddodiadau ein tadau yn ei gylch, ond y gwirionedd ei hun.
(b) Carwn y gwirionedd hwn i gyd.
Addewidiona bygythion hefyd; adnod â blas maddeuant arni—ac adnod â blas sancteiddrwydd arni hefyd. Pan fyddo o'n plaid-ie, a phan fyddo yn ein herbyn hefyd. Cofiwch gwestiwn Aletheius a Theomemphus, a'r atebaid: Peidio tampro â'r safon.
(c) Carwn y gwirionedd.
Nid ei dderbyn fel y derbyniodd y creigleoedd yr had,-egino heddiw a gwywo yfory. Nid ei ddeall fel y rhai a oleuwyd unwaith ac a syrthiasant ymaith wedyn. Nid ei barchu fel y perchir barbed wire, rhag cael dolur oddi wrtho. Nid ufuddhau iddo er mwyn y wobr draw. Ond ei garu er ei fwyn ei hun, ymfodloni, ymhyfrydu, ymserchu ynddo. Nid cadw'r Saboth gan ofyn, Pa bryd yr â heibio, fel y gwerthom ŷd, etc., ond galw'r Saboth yn hyfrydwch a gofyn pa bryd y daw eto. Nid ffugio cariad fel Simon y Pharisead at Iesu Grist. "Ni roddaist i mi ddwfr i'm traed," y cwrteisrwydd arferol i wahoddedig. A gaiff ef fwy? Hon a olchodd fy nhraed â dagrau. Paham? "Hi a garodd yn fawr." I ba gyfeiriad y mae ein dyfeisgarwch ni? A gaiff y Beibl gymaint o barch â llyfrau eraill? Ai llunio cyfleusterau i ddarllen a myfyrio yn y Gair a wnawn, ai llunio esgusodion dros osgoi hynny?
Tri rheswm dros garu'r gwirionedd.
(i) Oni cherir ef ni bydd yn allu llywodraethol yn ein bywyd. Yr hyn y mae dyn yn ei hoffi a gaiff deyrnasu arno Paham? Am fod cariad yn gryf fel angau,—yn gryfach na phethau cryfaf dyn. (a) Yn gryfach na synnwyr a rheswm. Yr oedd pob rheswm dros i Samson beidio â phriodi merch y Philistiaid. Ond' y mae hi