Y mater pwysicaf o bob mater i deithiwr yw medru peidio â cholli'r ffordd. Cafodd yr Israeliaid y golofn niwl a thân i'w harwain hwy, a chafodd y Doethion o'r dwyrain seren i'w harwain, ond beth a gawn ni? Ni wna profiad mo'r tro, am fod yr amgylchiadau yn newid o hyd. Anawsterau newyddion, rhwystrau newyddion, temtasiynau newyddion; dyna hanes y daith. Ar ddechrau pob blwyddyn a phob mis a phob wythnos gallwn ddweud, "Ni thramwyasom y ffordd hon o'r blaen." Ond lle y mae cyfle profiad yn cau, y mae cyfle gweddi yn agor. Dwg hyn ni at yr ail fater, sef:—
Gweddi'r Salmydd:—"Na chudd Di rhagof dy orchmynion." Ar ryw olwg nid yw hon chwaith y peth a ddisgwyliem. Dyn bron â'i lethu gan chwim ehediad y blynyddoedd, ac yn teimlo'r tir yn rhoi o dan ei draed; naturiol i hwnnw, debygem ni, erfyn yn debyg i Hesecïah gynt, Eled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau ar y deial, fel yr adfeddiannwyf eto flynyddoedd fy nerth.' Neu o leiaf dorri allan yng ngeiriau Josua fab Nun, a dywedyd, O haul, aros, a thithau leuad, cymer bwyll! peidied y rhod â throi mor gyflym, fel y caffwyf fy anadl, ac y cryfhawyf cyn fy myned ac na byddwyf mwy!" Ond nid hynny sydd yma. Nid gofyn y mae am i ddiwedd oes gilio o'r golwg, ond am i orchmynion Duw aros yn y golwg. Beth a olygai'r gorchmynion iddo ef, anodd gwybod, gan nad oedd rhyw lawer o'r ysgrythur yn bod y pryd hwnnw. Ond ni chyfeiliornwn ryw lawer wrth eu cymryd yn gyfystyr â'r Beibl. "Na chudd Di dy Feibl rhagof."
Yn awr, beth yw gwerth Beibl i deithiwr? Hyn, fy nghyfeillion, llyfr a'i bwrpas ydyw i ddangos y ffordd. Dyma'r guide-book a gyhoeddodd llywodraethwyr y wlad yr ydym yn mynd iddi, i gyfarwyddo pererinion i ben eu taith—
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw.'
Am hynny, gwyliwn rhag diystyru nac esgeuluso hwn. Peidiwch chwi, feibion a merched ieuaine, â meddwl mai hobby ychydig o hen bobl a phlant yw Ysgol Sul-rhywbeth y gellwch chwi yn eich afiaith fforddio ei hanwybyddu. Camgymeriad arswydus a fyddai hynny, oblegid llyfr yr Ysgol Sul yw yr unig arweinydd diogel ar y daith yr ydych chwi eisoes wedi cychwyn arni. Dod i'r Ysgol Sul a bod yn llafurus ynddi yw y cwrs mwyaf ymarferol y medrwch ei ddilyn tuag at beidio â cholli'r ffordd.
O chewch chwi a minnau ein dwyn yn ddiogel i ben ein taith, nid wyf yn siwr y bydd arnom angen am Feibl wedyn. Awgryma rhai o'i eiriau ef ei hun, na fydd. Ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad." Byddaf fi ar ben â chwi wedyn. Teimla rhai yn anniddig am na buasai ysbrydoliaeth wedi tynnu mwy o'r llen oddi ar y sefyllfa ddyfodol. Yr oedd John Foster yn