hynod felly. Ond nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Y cwbl a ellir ei gasglu ydyw na ddaeth i galon dyn erioed odidoced yw y wlad well. Neges y Beibl yw nid ei disgrifio, ond ein helpu yno. Mynegfys ydyw ar y croesffyrdd i ddangos yr iawn gyfeiriad. Buoy ydyw ar yr afon i farcio'r sianel. Goleudy ydyw ar y graig i rybuddio am y perygl.
Pa fath le a gaiff y Beibl yn ein bywydau? Fe fyddaf yn sylwi ar y teithwyr yn yr haf tua Moat Lane acw: fel y byddant yn holi'r swyddogion, yn ymgynghori â'r Time-table, ac yn edrych eu guides, a'r cwbl rhag ofn colli'r ffordd. A ydym ni am fentro taith bellach a phwysicach heb neb na dim i'n harwain heblaw ysbryd yr oes ac arfer gwlad?
Sôn am reilffordd! Safwn ar blatfform Caersws acw dro yn ôl yn disgwyl trên, ac un o wŷr y ffordd yn fy ymyl. Ymhen tipyn, meddai: "Mae o yn dwad yrwan." "Ple gwelwch chwi o? meddwn innau, Wela i mono eto," meddai yntau, " ond y mae'r signals i lawr. Sut yr ydych yn deall y signals yna," gofynnais innau. "Welwch chwi yr ystyllen acw draw, a hon fan hon, a honna fan yna?" "Gwelaf," meddwn innau. "Wel ni ddaw yr un trên i mewn o gyfeiriad Carno heb i'r tair yna fod i lawr. Wrth gwrs, fe all ddod, o ran gallu, ond nid oes yr un gyriedydd yn ei synhwyrau a gynigiai wneud hynny, oblegid dryswch a dinistr a fyddai'r canlyniadau." Meddyliais ganwaith am ei eiriau, a hynny mewn ystyr uwch nag a roddai ef iddynt ar y pryd. Sawl bachgen, sawl geneth, a welais i yn fy nydd yn rhuthro ymlaen i'w gyrfa, â'r signals yn eu herbyn! "Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan, pan ymgynhyrfo yn iawn. Yn y diwedd efe a frath fel y sarff, ac a biga fel neidr." Dyna'r ystyllen yn sefyll allan yn eglur ddigon, ac yn arwyddo, Halt!' Bechgyn ieuainc a fu'n cydadrodd eu hadnodau â mi yn y Seiat yn y Pennant, yn mynnu pasio honna, ac yn cyrraedd y bedd yn hanner eu dyddiau, fwy nag un ohonynt. Bobl ieuainc, onid yw'n werth ymgynghori â'r signal book?
Fe fyddaf yn meddwl weithiau fod y lle a gaiff y Beibl yn ein bywydau ni yn bur debyg i'r lle a gafodd yr Apostol Paul ar fwrdd y llong ar ei fordaith i Rufain. Er bod gan y swyddogion lawer o ryw fath o barch iddo, ni dderbynient ei gyfarwyddyd ar gyfer y daith. "Y canwriad a gredodd i lywydd y llong yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul." Felly, er bod morio weithian yn enbyd, codi angor a wnaethant, a chodi hwyl a gollwng i'r môr, ar draws rhybuddion yr Apostol Paul. Ond cyn bo hir dyma'r Euroclydon yn dod gan wneud y môr fel crochan berwedig, a hyrddio'r llestr i fyny ac i lawr, yn ôl ac ymlaen, fel tegan chwarae. Ac wedi i bob gobaith am fod yn gadwedig ei ddwyn oddi arnynt, dechreuodd Paul gael gwell gwrandawiad