A'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, "Pe baech wedi gwrando arnaf i yn y dechrau, byddech wedi osgoi llawer o sarhad a cholled. Os gwrandewch chwi heddiw fe gedwir eich bywydau, ond rhaid i'r llong a'i llwyth fynd." Ef yn ymarferol a fu'r Capten o hynny i'r diwedd, a gwiriwyd ei eiriau i'r llythyren. Fe ddaethant i'r lan bob un, rhai drwy nofio, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Fe ddaeth pawb i dir yn ddiogel, ond heb ddim cerpyn o luggage gan yr un ohonynt. Rhyw hanner damwain oedd hi hefyd, rhywbeth na allesid yn deg gyfrif arno. "A digwyddodd," meddai'r hanesydd, "A digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol." Da iawn oedd cael y lan rywsut, ond 'doedd o ddim yr un peth chwaith â myned i'r porthladd o dan lawn. hwyliau, ac eiddo pawb ar y bwrdd.
Fy nghyfeillion ieuaine, a gaf i yn barchus ddweud un gair wrthych chwi? Peidiwch â thrystio eich diogelwch i ddamwain. Ni ddeuwch i groesffordd o hyn i'r bedd nad oes yn hwn gyfarwyddyd eglur yn dweud, "Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi." Perchwch y cyfarwyddiadau o'r cychwyn cyntaf, ac felly fe osgowch lawer o ofid a cholled i chwi eich hunain, ac i'ch anwyliaid. Penderfynwch dreio cyrraedd y lan a'ch luggage gyda chwi, fel y byddo gennych rywbeth at ddechrau eich byd ar y Cyfandir mawr. A yw hynny yn bosibl? Ydyw. "Os gwaith neb a erys, efe a dderbyn wobr." Fe gaiff basio, nage, fe gaiff wobr. Beth fydd honno, tybed? Derbyn cyfarchiad personol y Brenin, "Mi a'th osodaf ar lawer. Bydd di ar ddeg dinas. Bydd dithau ar bump." Beth fydd y wobr? Gweled y pictiwr a dynnaist ti o fywyd yr Iesu yn dy fywyd dy hun ar lechweddi Mawddwy, trwy lawer o rwystrau a digalondid, gweled hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod uchaf mewn bod, a'i farnu yn deilwng o le yn y Royal Gallery ochr yn ochr â masterpieces yr oesau. Mae'r posibilrwydd yna yn agored i chwi, gwyliwch ei werthu am yr un saig a all y byd hwn ei chynnig i chwi.
Amdanom ni sy'n heneiddio, ac yn gorfod edrych yn ôl ar lawer cam gwag, nid yw y rhagolygon mor addawol. Ni wn i pa fodd yr ydych chwi, hen frodyr a chwiorydd, yn teimlo ond y tir uchaf a fedraf i ei gyrraedd y rhan amlaf yw geiriau'r pennill:—
Mynd yr wy'n llwm tua thir y bywyd
Ffon yn unig yn fy llaw."
A defnyddio iaith yr ysgolion yma, y mae'r siawns am distinction wedi ei cholli am byth, a'r siawns am basio yn edrych yn amheus lawer diwrnod. Beth a wnawn ni ynteu? Oni theimlwch fod y speed yn myned yn uwch ac yn uwch o hyd? Mae'r blynyddoedd wedi mynd yn rhyw bytiau byrion yrwan wrth y peth oeddynt ers talwm. Nid cynt y bydd Calan Ionawr heibio