nag y bydd Calan Mai wrth y drws, a chyn gynted ag i ni basio hwnnw bydd ias Calan gaeaf yn yr awel. Ond od yw amser, fel Jehu gynt, wedi mynd i yrru yn ynfyd, rheswm yw hynny—a dwbl reswm—dros inni wylio'r arwyddion yn fanylach nag erioed. Mae llawer ohonynt wedi mynd out of date i ni erbyn heddiw, praw arall mai teithwyr ydym. "Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid,"—nid yw honna yn ddim i mi mwyach. Mae deugain mlynedd er pan oeddwn ar ei chyfer. "Anrhydedda dy dad a'th fam." Ugain mlynedd yn rhy ddiweddar! Ond o drugaredd y mae yna rai ohonynt yn ein taro ni heddiw. Edrychwch rhag i'ch calonnau drymhau.' "Marchnatewch hyd oni ddelwyf." "Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu golau, a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu Harglwydd." Dyna hwy, "O'u cadw y mae gwobr lawer.
"Pan fo natur wan yn methu,
Pan fo twllwch o bob tu,
Pan ddiffoddo lampau'r ddaear,"
gall y rhai hyn, o'u parchu, oleuo ein ffordd a'n cyflawni o lawenydd yn nhroeon mwyaf dyrys yr yrfa. Hoff gennyf i erioed emyn Pantycelyn—
"Dyn dieithr ydwyf yma,
Draw mae 'ngenedigol wlad."
Dechreua'r bardd yn y cywair lleiaf, yn ymwybodol ei fod ymhell o'i le, a deisyfa am y deheuwynt i'w wthio o'i grwydriadau. Yn nes ymlaen, y mae'r deheuwynt wedi dod, ac wedi gwneud ei waith, a thôn y bardd wedi newid. "Ni byddaf yn hir cyn gorffen," meddai. Gorffen sut, tybed? Ai ar y gwaelod? O nage,—
"Ddim yn hir cyn glanio fry."
Sut yr wyt ti mor hyderus, Williams? A yw cartref yn y golwg? Nac ydyw, ddim yn y golwg eto, ond mae'r signals o'n hochr bob un.
"Pob addewid, pob bygythiad,
Pob gorchymyn sydd o'm tu."
Mae'r tair ystyllen i lawr, fel pe dywedai, yn arwydd imi fentro ymlaen, fod y cwrs yr wyf arno yn berffaith ddiogel. Soniwch chwi am force y currents, a nerth y tonnau, os mynnwch mi ganaf innau—
Gair fy Nuw sy'n drech na moroedd,
Gair fy Nuw sy'n drech na'r don,
Mi anturiaf oll a feddaf,
Fythol . . .