Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

a oedd y manylion i gyd yn wir, ond adroddai'r hen wr yr hanes yn ddifrif ddigon."

Un ystori arall, am gallineb cŵn y tro hwn. Credai Alafon fod cŵn yn gallu rhesymu. Cefais innau ddigon o achos i gredu'r un peth, a thrin y mater hwnnw yr oeddym. Meddai yntau:

"Tad! ie, creaduriaid rhyfeddol ydi cŵn. Yr wyf yn cofio un hen gi, a adwaenwn yn dda pan oeddwn yn rhyw hogyn. Yr oedd o wedi mynd yn hen iawn ac yn ddiwerth ers talwm, wedi colli ei ddannedd, a'i glyw wedi mynd yn drwm, ond ni allai ei feistr yn ei fyw feddwl am wneud dim iddo fo. Sut bynnag, yn ei henaint, mi gafodd ryw glwy, a dyna lle'r oedd o yn dihoeni ac yn bwrw ei flew ac wedi mynd i fethu bwyta, nes bod yn drueni edrych arno.

"Ryw ddiwrnod, dyma'r ffermwr, wrth edrych arno'n gorwedd ar lawr y gegin, yn dywedyd wrth ei wraig: Yn wir, mae'n drueni gweled yr hen gi yma. Mi fyddai'n fwy o drugaredd i saethu fo na gadael iddo fyw fel hyn. Lle mae'r gwn?' Wedi cael hyd i'r gwn, aeth y ffermwr ati i'w lanhau'n barod. Llwythodd y gwn, ond erbyn mynd i chwilio am yr hen gi, nid oedd olwg arno