Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

ef yn gweled y tu draw iddynt i gyd. "Dacw fyd," meddai, "y mae hi'n dawel acw ac yn olau."

Treuliasom fin yr hwyr yn yr ardd, lle'r oedd digonedd o fefus ac eirin Mair. "Y mae'r merched yma," meddai, "wedi eu hel, ond gadael tipyn i'r adar." Gallwn ysgrifennu pennod am ardd Alafon, ond darllened pawb a ddarlleno hyn o annheilwng goffa ei gerdd ef ei hun iddi (gweler y Cathlau, td. 44). Prin yr oedd ganddo gymaint ag arfer i'w ddywedyd y dechreunos hwnnw, mewn geiriau, o leiaf. Ond wedi cilio o'r goleuni i'r gorllewin a disgyn arnom o dawelwch y nos, daeth egwyl o'r hen amser drosto. Dywed odd lawer o bethau wrthyf, fwy nag erioed o'r blaen am ei fywyd a'i brofiadau ef ei hun, hanes cyfansoddi cerdd "Hen Gloc Mawr y Dre" ac ambell un arall, hanes yr hen gylch llenyddol yng Nghaernarfon gynt. Buasai'n darllen trwy lythyrau a phapurau oes ychydig cyn hynny, a chyfododd llawer peth i'r wyneb with sôn am danynt. Yr oedd y Cathlau wedi eu cyhoeddi erbyn hyn. Diolchais iddo am ddodi yn y llyfr y ddwy gerdd yr oedd yn betrus yn eu cylch gynt. Cefais wybod y noswaith honno beth y buasai'n rhy hy gennyf ei ofyn byth iddo—pwy oedd y