Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/104

Gwirwyd y dudalen hon

ferch a gwsg yn yr hen fynwent, honno a wyddai'r ddirgel ffordd dros y ffin. Yn y gwyll caredig, gwelwn ei lygaid gwlybion yn disgleirio, a chlywn ei lais fel pe buasai'n dyfod o bell . . .

Cefais un olwg arno wedyn, yn Aberystwyth, tua diwedd Medi—yr olaf. Yr oedd ef dipyn yn fwy syn a thawedog. Fel erioed, fe wyddai fwy nag a ddywedai.

Dywedodd wrthyf unwaith na theimlodd erioed ei fod wedi llwyddo yn ei amcanion. Atebais mai rhyw "frychfeddwl," fel y dywedai yntau yn nydd ei afiaith gynt, oedd peth felly; ac eto, yr oedd Alafon yn fwy na dim a wnaeth, yr oedd y tu hwnt i bob amheuaeth yn Gristion a gŵr bonheddig. Pa waeth am ddim arall yn y byd? Gŵyr eraill o'i hen gyfeillion, efallai, ddirgelwch y pennill rhyfeddol hwn o'r eiddo, ac oni ŵyr ein calonnau ninnau fwy na'n pennau, pe na bai arnom ofn ymddiried ynddynt?—

"Mi wn fod ffin, mi wn fod llen,
Yn cuddio'th wlad oddi wrthym ni,
Ond gŵyr fy nghalon fwy na'm pen,
A'r ddirgel ffordd a wyddost ti!"

1916, 1930.