Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

ddigon o esgus dros bob aflerwch a diogi, mi wn ardderchoced oedd y ddisgyblaeth honno. Bwriais noswaith yng nghartref yr Athro droeon wedi hynny. Nid oedd ŵr mwynach nag ef ar ei aelwyd ei hun na diddanach. Os gellid ei gael i ddarllen prydyddiaeth Gymraeg ar osteg—ac nid anodd fyddai hynny—neu i sôn am bwynt o ramadeg neu gystrawen, âi'r amser heibio heb yn wybod i ddyn. Ceid cyfle hefyd i weled gwaith ei law ef ei hun, naill ai'n copïo llawysgrif un arall, ai'n gwneuthur cloc, ai ynteu'n tynnu llun. Yr un gofal ac amynedd a glendid celfyddus, yr un gonestrwydd ag a geid yn ei holl waith. Er i fwy nag un o'r aml wŷr tanbaid sydd yng Nghymru gymryd yn ei ben o dro i dro fy mod i yn ddisgybl personol iddo, y gwirionedd syml yw na chefais i erioed mo'r fraint, y buaswn yn falch dros ben ohoni, o fod yn ddisgybl iddo yn yr ystyr honno. Eto, mewn ystyr arall, ohonom ni sydd yn ymhel â dysg Gymraeg yng Nghymru, pwy nad yw'n ddisgybl iddo? Hebddo ef, y mae'n lled sicr na buasai lawer o lun ar astudio'r Gymraeg yn y colegau Cymreig hyd heddiw. Wrth gwrs, nid anghofir am Syr John Rhys, ei athro yntau yn ei dro, ond y gwir yw ei fynd ef yn gynnar i dalu