Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

sylw i bynciau ehangach na dysgu'r Gymraeg yn unig; ac am y lleill o'i ddisgyblion ef, nid oedd iddynt oll mo'r ddawn ymddisgyblu parhaus oedd yn nodwedd mor amlwg yng nghymeriad John Morris-Jones.

Ni olyga hyn, wrth reswm, na wnaeth eraill o'r twr hwnnw o ddynion ieuainc a sefydlodd Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen lawer o wasanaeth gwerthfawr iawn, ond nid cam â neb yw dywedyd nad oedd onid un arall yn eu plith a chanddo'r ddawn ymddisgyblu oedd gan John Morris—Jones, sef oedd hwnnw, Puleston Jones. Yn ysgrifeniadau'r ddau hyn, ceir llawer gwahaniaeth, gwir yw, ond ceir un peth cyffredin iddynt, sef parch i iaith a manyldeb disgyblaeth barhaus. Ysgrifennai Owen Edwards yn ddifyr ac yn brydferth iawn, ond nid mor fanwl; y mae ei arddull ef ar y dechrau cystal ag ydoedd ar y diwedd—peth gwych i'w ddywedyd, hefyd—ond ni allodd rywfodd adael ei ôl ar ei ganlynwyr, ac y mae rhai ohonynt erbyn hyn yn ysgrifennu Cymraeg digon erchyll i beri i'r llenor mwyn ac awenus hwnnw droi yn ei fedd.

Diddorol fyddai astudio'r gwahaniaeth rhwng y tri. Rhamantwr oedd Owen Edwards,