hon. Yr oedd John Morris-Jones yn un o'r dynion na dderbyniant mo'r athrawiaeth hon. Iddo ef, yr oedd bod yn iawn yn cynnwys mwy na dim ond bod.
Bydd rhai o'i feirniaid yn y wlad hon yn dywedyd nad geirofydd mono—ar y Cyfandir, anghytuno â rhai o'i syniadau y byddis. Rhaid cydnabod, wrth gwrs, mai rhai heb fod yn eir ofyddion eu hunain fydd barotaf i'w dderbyn yntau i'r un dosbarth, ond y mae cymaint â hyn o wir yn eu hawgrymiad—nid geirofydd yn unig ydoedd ef, ond ieithofydd hefyd. Hyd yn oed er anghytuno â rhai o'i gasgliadau, rhaid cydnabod iddo ddangos medr anghyffredin wrth drin datblygiad seiniau, ond dechreuai ei waith ef cyn iawn lle gorffen llafur y seinofyddion. Gramadegwr, astudiwr cystrawen a phriod—ddull, un a aned i astudio'r pethau sy'n gwneuthur celfyddyd iaith yn bosibl, ydoedd ef. Ac yn y maes hwn darganfyddai rywbeth newydd o hyd. Iddo ef, y pethau hynny, pan ddarganfyddid a phan brofid nes ei fodloni ef, oedd yr iawn a'r gwir. Ni rusodd erioed ymwrthod â'r peth y profwyd ei fod yn anghywir, hyd yn oed er iddo ef ei hun fod wedi arfer y ffurfiau hynny gynt. Pan ddeuthum