Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/118

Gwirwyd y dudalen hon

i'w adnabod gyntaf, hyn a'm tarawodd fwyaf o bopeth yr oedd cywirdeb a manylder yn egwyddor iddo, ac ni lefarodd erioed mo'r ganmoliaeth wag a ddifetha lawer bachgen a allai ddysgu sgrifennu'n burion.

Clasurydd hyd fêr ei esgyrn ydoedd ef. Nid dyma'r amser hyd yn oed i ddyn gymryd arno benderfynu mewn hanner dwsin o eiriau sut brydydd ydoedd, na pha mor gywir neu anghywir oedd ei farn a'i safonau beirniadol, faint o "feirniadaeth ar fywyd" oedd yn ei waith, neu ba faint o drwyn oedd ganddo at fath arbennig o nwyd—un peth y gellid disgwyl i ni a'i hadwaenai ef ei wneuthur, gyda rhywfaint o lwydd ac o les, fyddai rhoi i rai nas gwelsant ryw fath o syniad am y dyn. Nid oedd yn siaradwr cyhoeddus llithrig; yn wir, herciog fyddai; ond os dyfynnai ddarn o brydyddiaeth neu o iaith rydd, gwnai hynny â pherffeithrwydd. Y peth hyotlaf a glywais i ganddo erioed oedd darlith ar Williams Pantycelyn, a draddodes yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl. Adroddai lawer o waith Williams, wrth gwrs, a hynny gydag effaith anghyffredin. Yr oedd tinc yr hwyl Gymreig ganddo, ond na chaniatâi ef i'w graddfa amrywio ond ychydig i