Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

ANFYNYCH y digwydd y peth, ond fe ddaw i ran dyn ar dro ambell gydnabyddiaeth a dyf yn ebrwydd yn adnabyddiaeth, megis pe bai'n barhâd o rywbeth a fu eisoes.

Y tro cyntaf y cyfarfüm â Richard Ellis, ni bu rhyngom ond ychydig eiriau, a'r rhai hynny oblegid yr amgylchiadau yn gorfod bod yn ffurfiol —cyfarchiad dau yn yr un gwasanaeth. Agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach, y tro diweddaf y gwelais ef, yn wir, cofiem fanylion y tro hwnnw. Cofiai ef hyd yn oed liw a thoriad y dillad a wisgwn. Pe buaswn ansicr o'm chwaeth fy hun neu grefft y teiliwr a wnaeth y dillad hynny, buaswn yn fodlon ar ôl deall bod y naill a'r llall yn gymeradwy gan fy hen gyfaill, canys yr oedd iddo ef, beth bynnag, chwaeth berffaith yn y pethau hynny fel mewn eraill. Mewn gwirionedd, gallwn innau ar yr un pryd alw o flaen fy llygaid ei ymddangosiad a'i ysgogiadau yntau—ei law dde tan benelin ei fraich chwith a deufys flaen y llall ar ei ên. Goleuni caredig yn ei lygaid a gwên groesawus yn crychu'r mymryn lleiaf ar ei wefus uchaf. Llais o'r tirionaf. Pob gair yn