gymwys. Cwrteisi perffaith, mwy di-ystum nag eiddo Ffrancwr, rhywiocach nag eiddo Sais, cwrteisi Cymro, o'r amser gynt. Gofynnai'r meddwl iddo'i hun pa bryd ac ym mha le y cyfarfuasem ni o'r blaen, a chodai megis rhyw frithgof am amser pell yn ôl ac amgylchiadau gwahanol. Ni wyddwn pam ac nis gwn. Ond yr oedd rhyw fud sicrwydd felly o'r tu cefn i argraff y funud, nid annhebyg i'r teimlad a ddaw dros ddyn weithiau ei fod yn adnabod lle na bu ynddo erioed o'r blaen.
Eto, haws disgrifio llawer cydnabyddiaeth ddigon damweiniol na rhoi syniad am gyfeillgarwch felly. Cefais y fraint o gydweithio ag ef am ryw dair blynedd a hanner, ac ychydig iawn fu nifer y dyddiau yn ystod y cyfnod hwnnw na byddai a wnelem lawer y naill â'r llall. Cydgerddem lawer beunydd, ac ni bu daith na bai fyrrach na'r chwedl. Er mai byr fu'r cyfnod a chymysglyd, yn wir, y mae iddo bellach helaethach mesur ac unrhywiach modd. Gorwedda draw yn y pellter fel llannerch heulog, mor ddistaw ac araul fel y byddai anodd gan ddyn feddwl dorri erioed ar ei thawelwch gan gymaint a gwich flin un wenynen farch. Ymwahanodd ein llwybrau