Nid y meirw ychwaith, ond y byw hefyd. Yr oedd dynion o bob math yn ddiddorol iddo, eu prydweddion a'u hysgogiadau diymwybod, eu gwisgoedd, eu lleferydd a'u hymddiddanion. Yr oedd ganddo ryw ddawn ryfeddol i daro ar gymeriadau a rhyw arbenigrwydd arnynt, ni waeth o ba ddosbarth y byddent. Cyn sicred â'i fynd ar daith i rywle, deuai yn ei ôl wedi cyfarfod â rhyw gymeriad hynotach na'i gilydd. Yr oedd ganddo reddf at gael hyd i gymeriadau anghyffredin ac ennill eu hymddiried a'u cyfrinach. Er mai tawedog fyddai mewn cwmni dieithr, sylwais lawer gwaith wrth gyd-deithio ag ef mor rhwydd y tynnai dynion o bob dosbarth ysgwrs ag ef. Dawnsiai ei lygaid, chwaraeai gwên o gwmpas cornelau ei wefusau, dywedai rywbeth cwta rhwng difrif a chwarae, rhywbeth a agorai ddôr atgof a lleferydd, a byddai'n ymddiddan rhyngddo a rhywun yn y fan. Sylwai'n fanwl ar arferion dynion, yn enwedig eu symudiadau a'u hystumiau difwriad. Carai blant bychain yn fawr, a chai bleser diderfyn wrth wylio'u symud iadau a gwrando ar eu dywediadau, byddai'n gyfaill a chydymaith iddynt rhag blaen, a chofiai hwy bob Nadolig yn gyson am flynyddoedd. Er
Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/133
Gwirwyd y dudalen hon