Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/136

Gwirwyd y dudalen hon

olaf oll. Rhwng gwyleidd-dra naturiol, diffyg hyder a'r awydd parhaus am gyrraedd perffeith rwydd, gadawyd yr ymdrechion hyn olf heb eu gorffen na'u cyhoeddi.

Byddai rhyw ddiniweidrwydd nodedig yn ei wyleidd-dra. Cof gennyf iddo unwaith addo darllen papur ar Edward Lhuyd i gymdeithas yr oedd ef a minnau'n aelodau ohoni. Yr oedd y gwaith yn barod mewn pryd, ond erbyn y diwrnod yr oedd ef i ddarllen y papur, yr oedd annwyd arno. Gelwais i'w weled ganol dydd. Ofnai na byddai fodd iddo ddarllen y papur. Gwelwn fod ei betrusdod yn fwy na'i annwyd. Ceisiais ei ddarbwyllo, ond mynnai i mi ddarllen y papur yn ei le. Addewais alw i weled sut y byddai gyda'r hwyr. Yr oedd erbyn hynny yn llawer gwaeth, meddai, ac ni allai feddwl am anturio darllen y papur. Nid oedd ond addo cymryd ei le. Rhoes y papur imi. Yr oedd yn un lled hir, wedi ei sgrifennu mewn llaw brydferth yr olwg ond nid hawdd iawn i'w darllen yn rhugl, a nifer o chwanegiadau ar ddail llai na'r lleill, i'w cymryd i mewn yma ac acw, a sêr neu groesau wedi eu dodi i ddangos y mannau yr oeddynt i fod. Gwelais mai anodd fyddai i mi ochel