Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

bu i neb erioed gystal arweinydd yn y ddinas ag a gefais i yr haf hwnnw. Ni buaswn erioed o'r blaen yno ddigon o hyd a chennyf ddigon o egwyl i gael dim ond rhyw gipolwg ar y lle. Adeiladau o lawer dull, delwau addurn, weithiau ormod ohonynt yn rhes gyda'i gilydd, efallai; cof am ambell dôn a dull o sôn am yr amser yr oeddis yno, a barai ansicrwydd, o leiaf, am rai o'r effeithiau-rhyw argraff felly a arhosai. At hynny, i'r sawl na fynnodd ei dynged agor iddo mo'r ffordd a fuasai ddewis ganddo gynt, naturiol fydd dywedyd ohono wrtho'i hun-ac eraill-bod y naill ffordd cystal a'r llall wedi'r cwbl. Ond daeth gafael Rhydychen arnaf innau hefyd yr haf hwnnw. Dyddiau heulog, helaeth; crwydro o fan i fan with hamdden, gydag un a dynghedwyd megis i fyw yno o ganrif i ganrif, a deall yn y modd a'r man hwnnw beth nis dyellir mewn modd na man arall . . .