sylweddolais yn gliriach na thrwy un profiad arall mai gwir a ddywedai ef wrthyf yn fynych, ym mlynyddoedd cynnar ein cyfeillgarwch, y byddwn innau'n iau pan awn yn hŷn.
"Pam y byddwch chwi, brydyddion ieuainc, yn sôn byth a beunydd am yr hydref?" meddai wrthyf un tro, "pam na soniech am y gwanwyn?" Yr wyf yn ofni i mi geisio dangos iddo mai diriach yr hydref na'r gwanwyn. Chwarddodd a dywedodd nad felly y barnwn tra bawn. Ac weithian, gwn innau mai ef oedd nesaf i'w le. Llawer gwaith, yn ystod rhai blynyddoedd tywyll y bu dda i mi am ei oleudrem ef.
Nid yw ond fel doe gennyf gofio'n hymddiddan cyntaf, a arweiniodd i'n perthynas a'n gilydd. Ei frawddegau cwta, pendant, a'i lygaid byw, a ddywedai fwy na'i eiriau. Rhoes yr argraff arnaf y tro hwnnw mai gŵr trefnus ei feddwl ydoedd, yn gallu ffurfio barn yn ebrwydd ac yn ei dal yn bendant a phenderfynol. Tybiais mai mater o fusnes fyddai'n perthynas â'n gilydd. Cyn pen pythefnos wedi fy myned i'r un gwasanaeth ag ef, yr oeddym yn gyfeillion. Rhwyfem ynghyd ar afon Fenai, a deallem fod nid ychydig o bethau tebyg yn ein profiadau gynt.