Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/156

Gwirwyd y dudalen hon

codech eich llais o ganol hyd ddiwedd y term. Wrth grybwyll y llall, gostyngech. Aech i helbul yn fynych hefyd am eu bod hwy mor hoff o eiriau dieithr a'u harfer yn barhaus heb eu bod oll yn rhoddi'r un ystyr iddynt. Yr unig siawns i ddeall meddwl llawer ohonynt fyddai eu gorfod i lefaru iaith y byddai raid i ddyn gwbl wybod ystyr ei dermau ei hun cyn y gallai eu trosi i'w heglurder hi. Oblegid rhyw ystyriaethau o'r fath, anodd oedd peidio â thybio bod yr hen ffilosoffyddion. wedi darfod o'r byd, neu ynteu fod yn amheus a fuont erioed i'w cael ynddo yn gymwys fel y cawsai dyn yr argraff amdanynt. Ond y mae ambell lwc yn y byd o hyd. Pan oeddwn ar fin anobeithio a chredu na byddai yn y byd byth eto un ffilosoffydd, cyfarfum ag un yn cyfateb yn union i'r ddelwedd honno a gawswn yn y dyddiau gynt.

Ym mis Awst, 1914, y bu hynny. Digwyddai nad oedd fy iechyd yn rhyw dda iawn, a gorfu arnaf gilio i un o'r ardaloedd hoffaf gennyf yng Nghymru i fwrw ychydig seibiant a cheisio denu cwsg yn ei ôl, ardal uchel, agored, lle y mae awyr lân, ysgafn, unigeddau maith i'w crwydro, ac adfeilion hen fynachlog yn y gilfach dawelaf a phrydferthaf yn y byd.