ymladd trostynt. Y mae dosbarth arall o ddynion, rhai heb fod yn ddi-fai, y mae'n debyg, ond a fydd yn rhywle tua'r canol, dywedwn. Bydd y rheini'n ceisio argyhoeddi'r lliaws mai ofer yw ymryson a dinistrio. Yn gyffredin, methu a wnant, ond ambell waith, cyfyd y lliaws mud yn erbyn y cnafon a'u trin dipyn yn erwin, a chaiff y dynion canol siawns i rai o'u cynghorion am ennyd. Ond cyn hir daw'r cnafon yn ôl, wedi ymolchi ac ymdrwsio, ac fel y buont y bydd pethau wedyn. Onid ydych yn meddwl mai rhyw chwarae felly yw hanes dynion fyth a hefyd, ac nad yw cynnydd ond dychymyg?"
"Nid annhebyg i hynny," meddai, "ond ni wn i ddim na ellir barnu yn rhy fuan. Hir yw pob ymaros ac araf fydd pob newid. Ni ddaw dim cyn ei dymor ac ni ddysgir ond trwy ddioddef. Er hynny, nid rhaid efallai ddioddef cymaint ag a ddioddefir, ac fe dyf pethau'n gynt o ddaear wedi'i thrin. Ysgrifennwch, fy machgen i, 'rych chwi yn ifanc."
Dywedais nad oeddwn fy hun yn meddwl y gwnawn lawer o les i neb, yn enwedig i mi fy hun, pe gwnaethwn hynny, a thebyg i mi, yn siomedigaeth y dyddiau hynny, sôn rhywbeth am