Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/162

Gwirwyd y dudalen hon

oferedd pob breuddwyd am fuddugoliaeth doethineb a rheswm, ac am hyder anghymesur y dynion fyddai'n meddwl y gallai dim a sgrifennant fod yn unpeth amgen nag oferedd munud awr.

"Er hynny," meddai'r hen ŵr, "sgrifennwch. A fyddech chwi a minnau'n ymddiddan am bethau fel hyn yma heddiw oni bai am rai a sgrifennodd gynt? Litera scripta manet."

Aeth yr ymddiddan ymlaen. Pan ymadawsom, gwyddwn fy mod wedi gweled a siarad ag un o'm ffilosoffyddion gynt, gŵr a ddarllenai Roeg a Lladin, a dreuliodd ei oes yn dlawd, fel hwythau, onid am ei ddoethineb, na allai un ddamwain ei dwyn oddi arno. Carwn ped arhosai rai o'r llythrennau hynny, a dorrwyd yma wedi llawer blwyddyn, am eu bod yn cadw cyfran o ddoethineb hen ffilosoffydd y cyfarfuwyd ag ef orig ar hynt bywyd.