Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/165

Gwirwyd y dudalen hon

EISTEDDEM, dri ohonom, ar ochr yr heol, yn llawn lewych haul yr Aifft, bob un yn ddistaw ac yn ddwfn yn ei fyfyrdod ei hun. Pesychodd pob un ohonom bron ar unwaith.

"Schrecklich!" meddai'r canol o'r tri, a fygodd ei beswch gyntaf, "und Sie auch?"

Adnabuom y peswch a'r crygni yn ei lais, ac atebasom, a'r un grygni, mai felly yr oedd. Ysmaliodd yntau am y peth. Cydchwarddasom. Felly y bu dechrau'r gydnabyddiaeth.

Rwsiad, Almaenwr, a Chymro. Myfi yw'r unig un o'r tri sy bellach ar dir y byw. Ieuainc oeddym, neb ohonom dros bymtheg ar hugain. Cristnogion, o leiaf mewn enw, ond bod tras a hyfforddiant yn ein gosod ymhell ar wahân mewn llawer peth. Ond yr oedd i ni un anffortun gyffredin. Cyfarfyddem bron bob dydd wedyn. Ni byddem byth o ddifrif, ar air, o leiaf, megis pe na fynasem ddatguddio'r hyn oedd odditanodd.

Un tal a main oedd y Rwsiad—galwaf ef Vassili—ond lluniaidd a chymesur, ag iddo'r llygaid breuddwydiol dyfnaf a welais erioed. Canol faint oedd yr Almaenwr—galwer ef