Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/21

Gwirwyd y dudalen hon

ddisgynno arni drwy Ddrws y Coed nes ei bod fel un talp o amethyst, a sylwais ddyfod yr un goleuni i'w lygaid a'r un wên hoffus ar ei wyneb. Clywais ef yn siarad ar osteg am gelfyddyd gwlad Roeg, a'r un goleuni a'r un wên fyth yn ei lygaid ac ar ei wyneb.

Ni bu yn ein hoes ni Gymro a adwaenid yn well nag ef. Ac ni bu hwyrach Gymro yr oedd ynddo gymaint nad adwaenid. Tawel, pwyllog, gafaelgar, cryf, gwyddai ei feddwl a'i amcan yn drwyadl, a medrai edrych ymhell, a disgwyl yn hir. Mewn pwyllgor, byddai ei wylio yn wers i ddyn ystyriol. Cadwai at ei bwnc. Prin fyddai ei eiriau, a manwl. Dacw ddarn o bapur o'i flaen, a phensil yn ei law. Gallech feddwl nad yw'n gwrando, ac mai ei brif a'i unig amcan yw bod y lluniau y mae'n eu tynnu ar y papur yn rhai cywir -llun pennau'r bobl sydd o'i gwmpas, neu lun cwnhingod yn rhedeg i'w tyllau neu yn edrych allan ar y byd o'r tyllau hynny. Fe allai ein bod ni sydd o'i gwmpas yn edrych yn debyg iawn i haid o gwnhingod iddo ef-mor ddibwrpas ydym! Eto, medr ef wenu mor dirion wrth dynnu ein lluniau, ac wrth droi at ambell un ohonom a sibrwd mor fwyn—"Wel, peth rhyfedd