Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

ydi pwyllgor, on'te!" Pa dawel ddifyrrwch a gafodd yn ei ddydd! Ond arhoswch iddo siarad a dodi trefn ar bethau. Ni thybiasech y gallai dyn dynnu lluniau a chynlluniau ar unwaith, a hel y cwnhingod i gyd i'r tyllau cyfaddas. Llawer un yn ddiau a aeth i'w dwll heb wybod dim pwy a'i gyrrodd yno, a heb ddychmygu mai twll arall oedd ei nod ef ei hun ar hyd yr amser.

A'i egni eto. Gwelais ef yn cyrraedd Lerpwl wedi teithio o Gaerdydd. Cawsom egwyl i yfed cwpanaid o dê cyn bod yn rhaid iddo ddarlithio yn y Brifysgol ar Hynafiaethau Cymru a'r Goror. Siaradodd am awr ac ugain munud, heb air ar bapur o'i flaen. Ni faglodd ar gymaint ag un frawddeg; ni fethodd unwaith a rhoddi enw dyn na lle na gwrthrych, na nodi blwyddyn. Gorffennodd. Aethom allan. Cafodd damaid o fwyd. Aeth yn syth i'r traen i deithio ar hyd nos i dreulio trannoeth mewn rhyw bwyllgor. Felly o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn. Ni roed caletach gweithiwr erioed i orffwys yn naear gwlad a garodd.

Perthynai i bob enwad. Ni fedrech feddwl amdano ond fel dyn a Chymro. Ac y mae calonnau ei gyfeillion yn cynhesu, serch bod ei