Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/34

Gwirwyd y dudalen hon

ddisgyblaeth glasurol a gyfrifai am y newid posibl yn ei ddull wrth lefaru ar goedd. Pan ddoi'r cysgod gwên hwnnw dros ei wyneb—fe'i gwelais unwaith pan oeddym yn gorfod gwrando ar sampl ysgubol o'r ymfflamychu aml-eiriog hwnnw a glywir nid yn anfynych yng Nghymru,—meddyliwn fod mwy na disgyblaeth yn y peth hefyd. Tybiais lawer gwaith fod, y tu ôl i'r wên honno, gyfandir nad adnabu neb, hyd yn oed o'i gyfeillion. Ac weithian, nid adnebydd.

1919.