Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

RICHARD HUGHES WILLIAMS oedd ei enw, "yn ôl y Seisnigawl arfer," chwedl John Jones Gelli Lyfdy, gynt; ond rywbryd yn o gynnar ar ei yrfa lenyddol, dechreuodd ysgrifennu yn Saesneg tan yr enwau "Tryvan Arvon" a "Dick Tryvan" (y mae cennad i Gymro a sgrifenno yn Saesneg ddewis enw Cymraeg). Rywfodd, yr olaf o'r ddau enw a lynodd wrtho ymhlith ei gyfeillion, er mai'r blaenaf oedd y tlysaf yn ddiamau—ond y mae llawer canrif er pan fu'r Cymry yn hoff o bethau tlysion!

Brodor o Rostryfan, yn Sir Gaernarfon, ydoedd, er bod teulu ei dad yn dyfod o dueddau Aberdaron, a thraddodiad yn eu plith, fel y clywais y mab ei hun yn dywedyd, eu bod yn ddisgynydd ion i'r hen fardd Lewys Daron. Ganed Dic Tryfan tua'r flwyddyn 1878. Chwarelwr oedd ei dad; ac ni chafodd yntau, oedd yn un o deulu o bedwar neu bump, ryw lawer o gyfleustra addysg yn hogyn. Aeth i weithio i'r chwarel ei hun pan oedd tua deuddeg oed; ond yr oedd elfen lenyddol ynddo wrth natur, a chawsai grap ar ddarllen Saesneg yn yr ysgol. Dechreuodd ddarllen ac