Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/49

Gwirwyd y dudalen hon

Mewn pethau tyner fel hyn yr oedd ei gryfdwr, ond nid oedd heb ryw ysmaldod sych, cyrhaedd gar. Ysgrifennodd amryw nofelau, ond ni chyhoeddwyd yr un ohonynt yn llyfr eto. O wythnos i wythnos, yng nghanol gwaith arall blin a chaled, ac am gyflog bychan, yr ysgrifennai. Odid Gymro o'i oed a sgrifennodd gymaint ag ef, ac y cyhoeddwyd cymaint o'i waith; eto cymharol ychydig a wyddai amdano, hyd yn oed wrth ei enw, canys er maint a sonio'r Cymry am lenyddiaeth werinol a gwerin lenyddol, nid ydynt yn hoff iawn o brynu llyfrau. Achwynai beirniad dysgedig yn ddiweddar na bai ystraeon byrion medrus i'w cael yn Gymraeg. Gofyn iddo a ddarllenasai ef ystraeon Dic Tryfan. Ni chlywsai erioed sôn am ei enw, ac eto y mae Straeon y Chwarel a Thair Stori Fer o'i waith ar y farchnad. Disgwylir i lyfrau Cymraeg ddyfod at y drws i'w gwerthu eu hunain. Cefais lythyr yn ddiweddar, oddi wrth ŵr yn byw mewn tref gwbl Gymreig, yn holi ym mha le y ceid llyfrau Dic Tryfan. Ni wyddai'r "siopwyr" yno ddim am yr awdur na'i lyfrau, na sut yn y byd y cai'r cwsmer druan hyd iddynt. "Dim galw amdanynt!" Ie. Ni