ei glywed felly un diwrnod, gofynnais i Ddic Tryfan pa un, dybiai ef, ai hoff ai anhoff oedd ganddo'r sŵn (organ law oedd wrthi ar y pryd, neu ynteu'r hen greadur a fyddai'n canu "The last rose of summer" ar ei gornet, ac yna’n troi'n sydyn at "Wŷr Harlech" pan welai rai ohonom yn dyfod). Ni allai fy nghyfaill f'ateb. Ond cyn pen dwyawr, yr oedd ganddo stori am y ci. "Y Cerddor" oedd ei theitl, a doniol odiaeth ydoedd.
Un o'i hoff gymeriadau oedd "Yr Hen Grydd." Gwelais y gŵr rai troeon, a gwn mor gywir oedd ei lun gan y cyfarwydd. Caech ffilosoffi'r hen ŵr hwnnw mewn brawddegau cwta, hawdd i'w cofio, a gwerth eu cofio. Gwelais mai nid mewn llyfrau yn unig y dysgodd Dic Tryfan ei grefft. Dyna un rheswm ei bod hi cystal. Ysgrifennai Gymraeg pur gywir, ond dysgodd ysgrifennu Saesneg llawn cywirach—peth a ddylai fod o ryw ddiddordeb i'r bobl sy'n sôn byth a hefyd am addysg Cymru, canys os bu Cymro erioed hyd fêr ei esgyrn, ef oedd hwnnw. Dyfynnai ym adroddion diarhebol hen wladwyr syml ond doeth—deallai gymeriad. Gresyn na chawsem ei nofel ar fywyd y gwaith powdr. Tynasai dipyn