cynifer o bobl am ysgwyd llaw â hwnnw fel nad oedd i'r llall nemor siawns. O'r diwedd, blinodd yntau, a throes ar ei sawdl, cystal â dywedyd, "Twt lol! 'does reswm ar beth fel hyn!" Y funud honno, dyma fraich y darlithiwr i'r golwg drwy'r twrr oedd o'i gwmpas, a chlywn ei lais yn dywedyd yn groyw-"Dafydd! aros funud, gael iti ddwad i gnoi tamed o swper hefo mi!" Dyellais wedyn mai ei frawd oedd y llall.
Aeth blynyddoedd heibio. Un dydd, pan oeddwn ar orffen darlith i ddosbarth, daeth rhywun i ddywedyd bod Syr Henry Jones am fy ngweled. Euthum allan. Ni chefais fwy o syndod nemor dro. Edrychai 'n gwbl wahanol, wedi dioddef, wedi gwynnu, a gadael ei farf. Bûm gydag ef y diwrnod hwnnw am oriau, ac yr wyf yn cofio iddo fywiogi, megis, pan ddywedais, mewn ateb i ryw gwestiwn, mai yn Sir Ddinbych y'm ganed. Am addysg y soniai y diwrnod hwnnw, ac yr oedd mor llawn o eiddgarwch a phe na buasai ond llanc. O'r dydd hwnnw, aethom yn gyfeillion, ac yn ystod haf, 1921, treuliais rai oriau yn ei gymdeithas bob dydd am rai wythnosau.