Nid oedd neb ieuengach na hoywach nag ef yn y cwmpeini hwnnw. Yr oedd yr hen geinciau Cymreig ar y delyn wedi deffro rhywbeth dieithr ynddo, a theimlwn fy mod yn deall pethau nas dyellais o'r blaen wrth ei glywed yn canu ac yn chwerthin, a'i weled yn codi ar ei draed a cherdded o gwmpas, megis pe na allasai fod yn llonydd.
Un bore, ar lan y môr, a'r lle yn llawn o ymwelwyr o bob man, cerddem gyda'n gilydd. Dechreu odd sôn am ffilosoffi. O dipyn i beth, twymodd ati, a dechreuodd ddywedyd pethau godidog. Cyfeiriai at lyfrau nas darllenswn i erioed, a gorfu arnaf ymesgusodi drwy ddywedyd nad ffilosoffydd monof. "A ydych yn meddwl," meddai, "y dywedwn i bethau fel hyn wrthych pe na baech?" Troai pobl i edrych arnom, ond ni welai ef neb ohonynt, mi gredaf. Darlithiodd i mi yno am awr, fel pe buaswn ddosbarth neu gynulleidfa. Rhown lawer pe gallwn gofio'r pethau a ddywedodd, yn gywir fel y clywais hwy. Cyflawnder ac aeddfedrwydd meddwl, toreth iaith, awen bardd—pob camp ar ddyn yn ei odidowgrwydd pennaf. Cerddem allan o'r dref ar hyd heol fwy gwledig. Yr oedd ochr y ffordd yn frith gan lygaid y dydd a daint y llew. Eisteddasom ar lawr yno, ac