Y MAE llawer er Dadorchuddio colofn yr oeddis, colofn a godwyd er cof am enwogion o Gymry. Daethai llawer o bobl ynghyd o bob cyfeiriad, ac yr oedd yn rhaid cael areithiau gan wŷr mawr, wrth reswm.
Dyna lle'r oeddynt ar lwyfan a godwyd at y pwrpas, yn llefaru y naill ar ôl y llall. Nid wyf yn cofio nemor ddim o'r areithiau—llawer o sôn am y "werin" a "gweledigaeth," "gwladgarwch," a phethau felly. Ond dyma fardd ar ei draed i adrodd englynion. Wyneb llyfn, gwallt mawr, llais da. Ni wnaeth yr englynion lawer o argraff arnaf hyd nes dyfod at linell olaf un ohonynt, oedd wedi ei bwriadu er clod i'r cwmpeini urddasol a ddaethai ynghyd y diwrnod hwnnw. Drwg gennyf nad wyf yn cofio'r englyn, ond ymhlith y dyrfa, meddai'r llinell olaf, gwelid "prif fashers Gwalia." Ni chlywais i mo'r term mashers ers blynyddoedd maith bellach, ac nid wyf yn rhyw sicr iawn o'i darddiad na'i union ystyr, ond ar y pryd yr oedd yn gyffredin gan ryw ddosbarth o Saeson—tebyg iddo fynd i ffordd yr holl ddaear yn fuan wedyn. Pan glywais ef yn