Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

Clywn fy llais fy hun, fel pe buaswn yn gwrando ar lais rhywun arall, yn gofyn cwestiwn, hen, hen gwestiwn. Gwelwn ei ben yntau'n codi'n sydyn, ei lygaid yn fflachio, ei wefusau'n lled agor, ac yn crynhoi megis i lefaru, yn pwdu, bron, ac yna'n cau drachefn heb lefaru gair; ei dalcen gwych yn crychu, yntau'n cuchio hyd yn oed, a difrifwch mawr yn dyfod i'w olwg. Dacw fo'n plygu a'i benelin ar y bwrdd a'i ên ar ei law, ac yn edrych draw, fel pe bai'n gweled trwy fater a phellter—neu fel pe na bai'n eu gweled o gwbl. Bydd felly am ysbaid, yn gwbl lonydd a distaw, aruthr grynhoi ar bob egni meddwl. Yna daw goleuni i'w lygaid, cryn cornelau ei wefusau, a thyrr gwên dros ei wyneb cadarn ardderchog, yna ymlaen ag ef i draethu ei feddwl . . . Ac nis clywir mwy

Llawer a glywswn, fel y dywedais, am ei angerdd gynt. Clywais amdano unwaith, wrth ddarlithio i ddosbarth, hyd yn oed yn gymharol ddiweddar, yn sefyll wrth gefn cadair, ac wrth lefaru yn gafael ynddi a'i throi a'i throsi yn ei angerdd nes dyfod o'r cefn yn rhydd yn ei ddwy law, yntau gan chwerthin yn ei bwrw ymaith a mynd rhagddo fel pe na ddigwyddasai ddim.