Yn fy nghydnabyddiaeth i ag ef, y peth cyntaf a'm tarawodd oedd ei ddawn i ddeall syniadau a safonau newyddion—nid ei fod o angenrheidrwydd yn eu derbyn bob amser, ond ni phallai byth a'u deall, ac ni frochai un amser o'u plegid. Deallodd darddiad a datblygiad y mudiad llenyddol newydd a ddaeth tua'r cyfnod hwn, fel canlyniad naturiol astudio'r Gymraeg a'i llenyddiaeth yn drefnus o gyfnod i gyfnod. Meddwl agored, ysgolheigaidd, oedd ganddo, a thiriondeb cyson, hyd yn oed pan feirniedid y traddodiad y dygwyd ef i fyny yn ei ganol.
Anffawd yn hytrach na bai'r traddodiad hwnnw oedd bod bylchau tost yn ei gysylltiad a'i wreiddiau ei hun, ac nad oedd iddo ond un math o ymgeledd a nawdd, sef cystadleuaeth eisteddfodol. Canlyniad y cyfyngdra hwn oedd mai darn cymharol fyr hyd yn oed o lenyddiaeth Gymraeg oedd yn weddol hysbys i'r traddodiad, a syniad ei feirniaid yntau am gyfnodau cynt oedd na chynhwysent odid ddim ond "ofergoeledd mynachaidd." Rhyw ddechrau darganfod anghywirdeb y syniadau hyn yr oedd y rhai a elwid yn "do newydd," ac nid oedd fodd i hynny ddigwydd. cyn dechrau dwyn llawysgrifau a llyfrau Cymraeg