at ei gilydd i lyfrgelloedd cyhoeddus—o ran hynny, nid ydys eto ond ar ganol y gwaith hwnnw.
Meddwl oedd meddwl Alafon a allai sylweddoli'r pethau hyn. Nid oedd ar ei gyfyl ddim o osgo'r bobl fydd yn sôn amdanynt eu hunain fel "ni'r beirdd" ac yn diflasu dyn drwy sôn am "yr awen" a rhyw rwdlan felly. Ni chaech mono ond ar ddamwain fawr i sôn gair am ddim o'i waith ef ei hun. Nid mater o newid mesur neu eirfa oedd y gwahaniaeth a welir yn ei bethau diweddarach ef o'u cymharu â phethau'r cyfnod cynt, ond cais dealltwriaeth celfydd wrth natur i ennill y feistrolaeth a fynnai'r nwyd honno nad oes gelfyddyd hebddi, ac ni aned mo'r sawl a allai fforddio symlu rhyw nawdd uwchraddol tuag ato ef, gan awgrymu nad oedd ei ddatblygiad yn ddim ond rhyw wendid neu fympwy, rhyw geisio bwrw ymaith feistrolaeth ar un dull er mwyn dynwared un arall.
Nid dynwared a fynnai Alafon, ond bodloni nwyd y celfydd a ddeallai ac a fedrai ddal i'w ddisgyblu ei hun hyd y diwedd, a phlesio llai arno'i hun nag ar neb arall wedi'r cwbl. Yr oedd ynddo ef ddyfnderau nas mynegodd erioed mewn un gerdd o'r eiddo. Nid yn ei awdlau cystadleuol