y down o hyd iddo, canys er iddo gystadlu llawer —cystadlu oedd llenydda yn ei gyfnod a'i gylch ef yn ei ieuenctid—eto, nid cystadleuwr mono ef wrth natur. Yn rhai o'i gerddi mân y cawn gip ar y dyn rhyfeddol oedd Alafon.
Ac am y dyn y mynnwn sôn. Hyd yn oed yn y cyfnod anturiaethus yr wyf yn sôn amdano, ni byddai ddim tebyg i gael mynd i fyny i Glwt-y-bont i dreulio diwrnod gydag ef. Byddai'r peth fel pererindod.
"Tad! ie, 'ro'n i'n meddwl mai chi 'ro'n i'n i weld yn dwad ar hyd y ffordd. Sut yr ydach chi? Dowch i mewn !"
I mewn â minnau ac i'r astudfa—yr hen un, cyn altro'r tŷ. Aeth titw tomos las allan yn ebrwydd drwy'r ffenestr agored pan welodd ddyn dieithr yn dyfod i mewn, ac aeth at y plisgyn cneuen gocoa a ddodasai gŵr y tŷ at ei wasanaeth ar y pren gyferbyn. Rhedodd yr ehedydd cloff i ymguddio yn y dail mewn bocs yn y gornel (deuai i mewn bob nos i gysgu yno, byth er pan drwsiodd gŵr y tŷ ei goes iddo, ac yno y cysgodd nes ei ladd ryw ddiwrnod gan y gath, a themtio'i gymwynaswr bron i'w lladd hithau). Yr oedd gan y gath y tro hwn fwy o hyder ac ymddiried. Daeth