Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/98

Gwirwyd y dudalen hon

wrthyf mwy am ddywedyd cymaint â hyn. Ni allwn ofyn iddo, ond rywfodd ni allwn beidio â meddwl bod yr wyneb unig a ddangosodd i mi yn debyg i wyneb rhywun, gynt . . .

Yr wyf yn cofio mynd i'w hebrwng i'w gyhoeddiad, ddiwrnod poeth heulog ym mis Gorffennaf. Ar hyd ffordd Fethel yr aem. Dechreuodd sôn am adar. Gwyddwn eisoes ei fod ef yn gyfaill pob ederyn gwyllt, a chreaduriaid heb fod lawn mor hygar-gweler y soned, Cathlau Bore a Nawn, td. 82, "Meudwy'r Ardd," i'r llyffant a laddodd ef drwy ddamwain wrth drin yr ardd, a'r gerdd ar y tudalen nesaf i'r Brongoch Briw." Gwyddwn hefyd ei fod yn bysgotwr-hen gamp a ddysgodd yn hogyn, yr wyf yn sicr, ar wahân, megis, i dynerwch mawr ei natur. Ond dyma'r pryd y dyellais gyntaf am faint ei wybodaeth, a honno'n wybodaeth a enillwyd ar ei hunion o lyfr natur, heb gymorth llyfrau dynion.

Nythai brain yn y coed tua Chae Tolpis, ac aethom i sôn am frain. Cofiaf i mi ddywedyd fy mod wedi darllen yn rhywle bethau rhyfedd am arferion brain. Dechreuodd yntau ddywedyd eu hanes, fel y profant ac y cosbant rai a droseddo