Tudalen:Cymru Owen Jones Cyf I.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Derwyddol, Hen Gladdfeydd, Amddiffynfeydd, Cestyll, Gwersylloedd, Mynachlogydd, Palasau, &c.

BUCH-DRAITHYDDIAETH. —Y mae Cymru yn oludog yn ei Henwogion, y rhai a addurnasant ei brutiau ar y Maes ac yn y Cynghor-lys, yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth; ac yn llwybrau Llenoriaeth, yn arbenig mewn Barddoniaeth a Cherddoriaeth. Rhoddir hysbysrwydd am y rhai mwyaf enwog o'r rhai hyn; ac am hen Deuluoedd Pendefigaidd y Genedl a'u Trâs.

Hyderir y gellir cynnyrchu Gwaith, yn ol y cynllun uchod, a werthfawrogir, nid yn unig gan bob un yn y Dywysogaeth, ond hefyd gan bawb sydd yn gyfarwydd â'r yr hen iaith Gymraeg.

Y mae y Golygydd wedi bod yn ddiwyd yn casglu defnyddiau at y cyfryw Waitb a hwn yn ei deithiau drwy hyd a lled y Dywysogaeth, dros lawer o flyneddoedd; ac yn ffodus, y mae efe wedi llwyddo i sicrhau cynnorthwy amryw o Lênorion blaenaf y Genedl, megis y Parch. J. Emlyn Jones, LLD., Parch. Richard Parry (Gwalchmai), Parch. Roger Edwards, Wyddgrug, Parch. Robert Ellis (Cynddelw), Parch. Daniel Rowland, M.A., Parch. E. Stephen, Parch. J. Spinther James, Parch. William Rees, D.D., Liverpool, Parch. William Davies, D.D., Bangor, Parch. Thomas Rees, D.D., Abertawe, Parch. Thomas Levi, Abertawe, "Dafydd Morganwg." &c, &c., &c., fel y mae efe yn dra hyderus y bydd y Gwaith hwn, yr hwn a drefnir yn wyddorawl, yn deilwng o gael ei alw, "GEIRIADUR CENEDLAETHOL CYMRU."

Addurnir y Gwaith â Mapiau o bob un o'r Siroedd; ac â Map cyffredinol o Gymru; ac â Darluniau o leoedd pwysig yn y Dywysogaeth; a chyrhaedda i tua 22 o ranau, 2 swllt yr un.

—————————————

LLUNDAIN:

BLACKIE A'I FAB, PATERNOSTER BUILDINGS, E.C.;

GLASGOW AC EDINBURGH.