Tudalen:Cymru fu.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r deg mabolgamp, tair helwriaeth sydd: — 1, Hely a milgi; 2, Hely pysg; 3, Hely aderyn. A saith. gamp deuluaidd: — 1, Barddoniaeth; 2, Canu telyn; 3, Darllen Cymraeg; 4, Canu cywydd gan dant; 5, Canu cywydd pedwar ac acenu; 6, Tynu arfau; 7, Herodraeth, neu negeseuaeth. A'r rhai a elwir Gogampau ydynt: — 1, Chwareu Gwyddbwyll [play at chess]; 2, Chwareu Tawlbwrdd; (nid yw dysgedigion yn cytuno o barth y gamp hon; tebygol mai eilun ohoni ydyw chwareu trensiwr, neu y plât pren, a arferir mewn rhai parthau o Gymru yn bresenol;) 3, Chwareu Ffristial [dice, neu deisiau fel y gelwir ef gan y Cymry]; 4, Cyweiriaw Telyn.

Y NAW HELWRIAETH.

O'r naw helwriaeth, taer helfa gyffredin sydd: — 1, Carw; 2, Haid Wenyn; 3, Gleisiaid. A thair helfa gyfarthfa: — 1, Arth; 2, Dringhedydd; 3, Ceiliog coed. A thair helfa ddolef: — 1,Llwynog; 2, Ysgyfarnog; 3, Iwrch. Y Carw a ddywedir ei fod yn un o'r tair helfa cyffredin, yn gyntaf, am ei fod yn wychaf ac yn wrolaf anifail, y mae helwriaeth arno â bytheiaid ac â milgwn; yn ail, am ei fod yn rhanog rhwng pawb a ddel ato wedi ei ladd, cyn tynu'r croen oddiamdano; oblegyd, os bydd gŵr ar ei daith yn dyfod heibio yr amser hwnw, efe a gaiff ran ohono wrth gyfraith cystal a neb a'i lladdo. Haid wenyn sydd helfa gyffredin, oblegyd pwy bynag a'i caffo ar ei dir ei hun, neu ar dir arall, y mae yn rhanog pawb o honi ar a ddel ati cyn rhoi ohono wystl, sef yw hyny, rhoi nod wrthi i ddangos mai efe a'i cafas gyntaf; ac onis gwna, pawb a ddelo yno a gaiff ran ohoni, ond bod y bedwerydd yn myned i berchenog y tir. Gleisiad a elwir yn helfa gyffredin; oblegyd pan fydder yn eu hely â rhwyd, neu â thryfer, neu modd arall, pwy bynag a ddel ato cyn ei ranu, y mae iddo ran ohono cystal a'r neb a'i dalio, os bydd mewn dŵr cyffredin.

Yr Arth sydd helfa gyfarthfa, am ei bod yn gig hely o'r penaf, ac am na bydd fawr ymlid arni, am nas gall gerdded ond yn araf, ac ni bydd ond ei baeddu, a'i chyfarth, a'i lladd.

Dringhedydd yw pob peth a ddringo i frig pren i'w amddiffyn ei hun. Ac ni ddyly heliwr ddywedyd Bele,