Tudalen:Cymru fu.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEDD YR YSPEILYDD.
(Hanesyn ac ynddo addysg i bleidwyr Deddf Dienyddiad.)

Yn nghymdogaeth Trefaldwyn, tua'r flwyddyn 1819, yr oedd hen balasdy a elwid Oakfied, yr hwn er mwyn rhyw welliantau neu gilydd a drowyd yn ffermdy. Enw tenant y lle y pryd hwnw oedd James Morys, yr hwn oedd ddyn diofal ac afradlon, yn esgeuluso ei fasnach, a'r hw a fu farw mewn dyled, gan adael ei wraig a'i unig ferch mewn meddiant o'r lle. Yn fuan ar ol marwolaeth ei gŵr, cymerodd y wraig i'w gwasanaeth fel hwsmon ddyn ieuanc o'r enw Newton, o Swydd Stafford; yr hwn a gyflawnai ei swydd gyda gonestrwydd a llwyddiant mawr. Yr oedd efe yn berffaith ddyeithr yn y wlad hono, ac ni chyfeillachai â neb o'r cymydogion, eithr cyflwynai ei holl sylw a'i amser at ei alwedigaeth. Anaml yr ymadawai â chartref, oddieithr i ffeiriau a marchnadoedd, ac i'r Eglwys ar y Sul, lle yr ymddangosai yn ddefosiynol iawn wrth wrando yn astud ar wasanaeth nad oedd yn deall yr un gair ohono. Ymddygai yn weddus bob amser; eto ymgadwai mor neillduedig fel y methodd offeiriad y plwyf, er ei holl ymdrech, ffurfio cyfeillach âg ef. ond yr oedd y fferm yn gwella tan ei arolygiaeth; a'i pherchenog yn llwyddo yn y byd. Aeth dwy flynedd heibio, ystyriai y weddw ef yn fwy fel cyfaill nag fel gwas; ac yr oedd yn llon ganddi weled ei hanwyl eneth ac yntau yn ymserchu yn eu gilydd. Un prydnawn yn Tachwedd, 1821, daliwyd ef yn hŵy nag arferol yn y yrallwm, ac am chwech o'r gloch cychwynai ar ei draed tuag Oakfield. Yr oedd yn noswaith dywell iawn; a disgwylid ef yn bryderus adref; ond er disgwyl a phryderu hyd ddau a thri nid oedd yn dyfod; ond cyrhaeddodd y newydd yn y bore ei fod wedi dychwelyd i'r dref yn fuan ar ol ymadael, yn ngofal dau ddyn o'r enw Parcer a Pirs, y rhai a'i cyhuddent o ladrad penffordd, yr hwn drosedd a gospid â marwolaeth y pryd hwnw. Profwyd ef yn euog o'r cyhuddiad yn y Sesiwn ddyfodol ar dystiolaeth y ddau gyhuddwyr hyny, yr hon oedd yn eglur a chyson drwyddi, a dedfrydwyd ef i gael ei grogi. Nid oedd ganddo ddadleuydd, ac ni alwodd unrhyw dyst o'i blaid; ond pan ofynodd y barnwr iddo yn y dull arferol, "a oedd ganddo rywbeth i'w ddywedyd paham na ddylai dedfryd angau gael ei chyhoeddi arno,"efe a anerchodd y llys yn dull rhyfedd a ganlyn: —