Tudalen:Cymru fu.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pentref dan sylw. Ar ol bod yno ychydig fynydau, holodd am. yr offeiriad, ac aed i ymofyn ef at y gŵr boneddig yn ddiymdroi. Daeth yntau yno, a bu yn siarad am awr neu ddwy gyda'r gŵr boneddig dyeithr, a dywedodd wrtho am briodas merch Cae'r Melwr, a soniodd rywbeth am Jack. Dywedodd y gwr boneddig wrtho o'r diwedd fod arno ef eisieu cael ei briodi cyn dydd bore dranoeth. ac y rhoddai iddo ddeg gini melyn os y gwnai. Ni faliai yr hen offeiriad ddim llawer mewn na rheol na pheth; cytunodd i wneud rhag blaen; sef am chwech o'r gloch yn y bore.

Ymadawodd y ddau am y noson hono. Aeth y boneddwr yna allau, a bu o'r tŷ am tuag awr, ond daeth yn ei ol a boneddiges gydag ef. Gadawodd hono yno ei hun drachefn, ac aeth ymaith yr ail waith. Aeth at Gae'r Melwr, a churodd wrth y drws; cyfododd yr hen ŵr yn llawn ffwdan. Adnabu lais Jack-. Dywedodd yntau ei neges yn ddiseibiant, sef bod merch ei feistr ganddo yn Nghapel Garmon, a'i fod am briodi yn fore iawn y dydd hwnw (oblegyd yr oedd hi erbyn hyn yn dri o'r gloch y bore). Gofynai hefyd a ddeuai yn was priodas i'w hen was bach. O! deuai rhag blaen. Rhoes beth amdano ynbur ddel; ond nid y dillad newydd tanlliwerai a gawsai gogyfer a, phriodas Ellen. Aethpwyd tua Chapel Garmon; ac wrth fyned, dywedai yr ben ŵr lawer byd o helynt y briodas oedd i fod yno, a gwahoddai Jack a'r wraig yno i dreulio y diwrnod yn llawen a llon hefo nhw. Cyrhaeddwyd y tŷ tafarn, ac erbyn iddynt fyned i'r tŷ, yr oedd yr offeiriad a'r clochydd yn disgwyl er ys awr neu chwaneg. Caed cornaid o ddiod dda, ac yna aed rhag blaen i'r eglwys. Merch y dafarn yn forwyn briodas, a'r Person yn sefyll yn lle gwas, a ben ŵr Cae'r Melwr yn rhoddi'r ferch! Priodwyd. Llwyddai yr ben ŵr y ddau mewn Saesneg clapiog o flaen y person hyd yn nod; a dywedai fod yn rhaid iddo frysio adref. Ond erfyniodd âr Jack fod yn sicr o ddyfod yno i'r briodas. Aeth adref a dywedodd •wrth yr hen wraig pa fath ddynes hardd oedd gwraig Jack. Ond ni welodd mo'i gwyneb unwaith, er iddi roddi cusan iddo wrth borth y mynwent pan oedd o'n dwad adref. Seisnes oedd hi. Mawr oedd y dwndwr yn Nghae'r Melwr y bore hwnw. Pawb yn llawn ffwdan: pawb yn paratoi. Yr oedd yn ddiwrnod braf yn niwedd Hydref, a'r haul yn loew-ddysglaer yn tywallt ei belydron ar fryn, dyffryn, a dôl. Disgwylid i Elen godi; ond nid oedd dim hanes o honi. Disgwyl y buwyd,