Tudalen:Cymru fu.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwrthefyr. llwyddodd y frad, a bu Gwrthefyr farw yn nghanol dagrau a galar ei bobl. Anerchodd ei filwyr mewn dull tra effeithiol yn ei frwydrau olaf. Tyngedodd hwynt i barhau yn wrol tros ryddid ac iawnderau eu gwlad: parodd iddynt godi trostan bres yn y porthladd yr arferai y Saeson lanio, a rhoddi ei arch ar ben y trostan, fel y dychrynid y barbariaid wrth yr olwg arni. Ond, fel y mae chwithaf adrodd, esgeuluswyd ei orchymyn, a chladdwyd ef yn Nghaerludd.

Codwyd Gwrtheyrn eilwaith i'r orsedd; ac ar ddymuniad Rhonwen nid aeth llawer o amser heibio cyn iddo anfon am Hengist, gan ei hysbysu, fel cymhelliad, fod ei elyn Gwrthefyr yn y bedd. Pa fodd bynag, rhoddodd orchymyn caeth arno na ddygai ond gwarchlu bychan gyd- ag ef, rhag cynhyrfu eiddigedd y Prydeiniaid. Ond pan glybu y bradwr llwynogaidd am farwolaeth ei orchfygydd, a bod iddo eto fantais i gyrhaedd awdurdod a goruchafiaeth yn y wlad hon, efe a ddarparodd fyddin fawr iawn, yn cynwys, yn ol rhai haneswyr, tua tri chan mil o wŷr. Pan glybu Gwrtheyrn fod y fath lu afrifed wedi glanio yn Nghaint, digllonodd yn ddirfawr, ac wedi ymgynghori â'i bendefigion, penderfynwyd ymladd at farw gyda'r giwaid digywiiydd. Daeth eu bwriad yn hysbys i Hengist, a thrwy fod brwydrau Gwrtheyn heb eu llwyr ddileu oddiar ei gof, tybiodd mai y dull doethaf iddo gyrhaedd ei amcau oedd ffugio heddwch, na thrwy frwydr onest ar faes agored. Danfonodd genadau at y brenin i'w hysbysu nad ei ddyben wrth ddyfod â'r fath lu mawr ydoedd ei niweidio nac anrheithio ei deyrnas; ond i ymladd â therfysgwyr a'r gelynion Gogleddol. Yr oedd yn barod i gyflwyno ei gleddyf a'i wŷr at wasanaeth y llywodraeth; neu, os mwy dymunol ganddynt, gallent ddethol rhyw nifer o'i fyddin a'u cadw yn Mhrydain at eu gwasanaeth, tra y dychwelai yntau gyda'r gweddill yn ol i'w wlad.

Llwyr orchfygodd y tiriondeb annisgwyliedig hwn holl elyniaeth y Brutaniaid calon-onest. syrthiasant i'r fagl. Yr oedd eu didwylledd eu hunain yn rhwystr iddynt weled twyll yn neb arall. Tybient fod yn anmhosibl i frad lechu dan y fath gochl dêg o gymwynasgarwch! Derbyniasant y Saeson gyda breichiau agored, — nid oedd yr un croesaw yn ormod iddynt, — ac yr oedd yn well gan lawer Prydeiniwr, yn enwedig Gwrtheyrn ei hun, am y Saeson, nag am ei genedl ei hunan.

Er mwyn selio y cyfeillgarwch, ar gynygiad Hengist, penderfynwyd cynal gwledd fawr o tua thri chant o'r