HANESION CYMREIG, &c.
CANTREF Y GWAELOD.
Cantref y Gwaelod oedd ddarn anferth o dir yn gorwedd
ar yr ochr orllewinol i Gymru, a orlifwyd gan y môr, ac
a orchuddir yn bresenol gan donau cythryblus Beisfor
Aberteifi (Cardigan Bay). Cymerodd hyn le tua chanol
y 5ed canrif. Tywysog y Cantref y pryd hwn oedd
Gwyddno Garanhir, neu hirgoes, a elwid hefyd Dewrarth
Wledig, mab i Gorfyniawn ab Dyfnwal hen, brenin
Gwent ab Ednyfed, ab Macsen Wledig. Yn meddiant
Gwyddno yr oedd un o dri thlws ar ddeg ynys Prydain,
sef "Mwys [cawell] Gwyddno Garanhir, bwyd i ungwr
a roid ynddi, a bwyd i ganwr a geid ynddi pen egorid."
Math o rwyd pysgota ydoedd hwn, a'r abwyd roid ynddi
yn abl i ddigoni ungwr, ac yn foddion i ddal cynifer o
bysgod ag a ddigonai gant o wŷr. Yr oedd Gwyddno yn
fardd hefyd fel y cawn brofi yn ol llaw.
Gweirglodd-dir cnydfawr oedd y Cantref, llawn o ffrwythgoed a blodau, canys ymddengys fod y trigolion ym bobl foethus, ac yn ymloddesta cryn lawer ar y gwin a'r medd, cynyrch eu gwinwydd a'u gwenyn eu hunain. Pa fodd bynag, perthynai iddo un anfantais bwysig, sef ei fod yn sefyll mor isel fel yr oedd yn angenrheidiol codi gwrthglawdd rhyngddo â'r môr, rhag ei orlifo. Yn y clawdd hwn, ar gegau yr afonydd, yr oedd dorau, y rhai a gauid ar ddystill llanw, ac a agorid ar ddystill trai, er mwyn i'r dwfr, oedd wedi croni a llynio, lifo allan. Swydd bwysig oedd gofalu dros y dorau hyn, oblegyd yr oedd bywyd yr holl Gantref yn crogl wrthi; ac ymddengys y byddai y tywysog yn chwilio am ŵr o sefyllfa led uchel, o ran cyfoeth ac urddas, i ymgymeryd â hi. Y drysawr yn amser Gwyddno ydoedd ŵr o'r enw Seithenyn ab Seithyn Seidi