Tudalen:Cymru fu.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon

tywysog Dyfed. Pa beth bynag ellir ddywedyd am waedoliaeth Seithenyn, anhawdd fuasai dychymygu person mwy anaddas nag ef i lenwi y swydd hon, oblegyd gosodir ef allan yn y Trioedd fel un o dri “Charnfeddwon Ynys Prydain.” Nid ydym yn gwybod am well testyn i'r areithydd dirwestol na bywyd Seithenyn ab Seithyn Seidi.


Dywed y Trioedd mewn man arall y ceid yn y Cantref “un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg.” “Hafan Gwyddno, yn ngogledd Cymru,” oedd “un o dair prif borthladdoedd ynys Prydain;” a chan ei bod yn sefyll yn y rhan hono o'r môr rhwng Sarn Badrig a gwlad Feirion, nid rhyfedd ei hystyried mor rhagorol. Ysgrifenwr darfelyddol a roddasant yr enw o Mansua i'r porthladd hwn, a dygid masnach helaeth yn mlaen rhyngddo a Llydaw a manau ereill o'r Cyfandir. Gelwid y brif-ddinas yn Gaer Wyddno, yr hon a safai ar gwr eithaf Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth; ac yma yr oedd palas y tywysog. Dynodir y fan yn bresenol gan adfeilion hen furiau.


Dyna hanes byr y Cantref anffodus hwn cyn ei orlifiad; ond y mae deddfau natur yn ddigyfnewid — i fyny y dring y fflam, i'r pant y rhed y dwfr — ac y mae trueni bob amser wrth sawdl afradlonedd. Melldith y bobl hyn fu glythineb, ac ar ŵyliau yn enwedig gollyngent y ffrwyn ar wâr blys. Un o'r gwyliau hyn, tra yr oedd pawb yn ymddigrifo mewn gwleddoedd a rhialtwch, a Seithenyn y drysawr gan wamaled ag un ohonynt, efe yn ei feddwdod a esgeulusodd gau y dorau cyn nos, a daeth y llanw i fewn, yn cael ei hyrddio gan ruthrwynt gollewinol. Goddiweddodd hwynt mor ddirybydd ag angau disyfyd; llwyr ddinystriodd eu perllanau; dadwreiddiodd eu deri; dadsylfaenodd eu haneddau; eu gwartheg a'u hanifeiliaid a laddodd efe â blaen ewyn ei gynddaredd, a'r rhan luosocaf ohonynt hwythau a gyfarfuasant a dyfrllyd fedd. Anmhosibl dysgrifio'r cyfyngder y deffrodd llawer ohonynt ynddo o gwsg trwm meddwdod, yn cael ei drymhau gan si marwol y llanw a'u prysur amgylchynai, a'u deffro yn y diwedd gan ryw dòn wenoer i'w sefyllfa drallodus a diymwared. Y rhai allasant ddianc a ffoisant, rhai i Feirion, rhai i Leyn, rhai i Geredigion, a phob un yn rhedeg am ei einioes i'r ucheldir agosaf ato. Erbyn tranoeth yr oedd y fangre wedi ei llwyr ddinystrio; y lasdon a'i mil myrdd preswylwyr yn chwareu hyd y