Tudalen:Cymru fu.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfelgar a digofus. Yr oedd "Bardd y Teulu" yn cael bywiolaeth gysurus ac anrhydeddus, ac ystynd palas y boneddwr Cymreig yn fyr o'i addurn arbenig os yn amddifad o fardd. Dyna paham yr oedd yr awen Gymreig yn blaguro ac yn blodeuo tra yr oedd llwydrew gauafol yn gordoi y gweddill o awenyddiaeth Ewrop. Yr oedd gan Arglwydd Glyndyfrdwy ychwaneg nag un bardd, eithr yr enwocaf ohonynt oedd Iolo Goch. Gellid meddwl mai "canu ar ei fwyd ei hun" yr oedd Iolo, o serch at Glyndwr yn bersonol, a chariad at ei achos; canys yr oedd ganddo etifeddiaeth ar ei elw ei hun yn Nyffryn Clwyd, a elwid y Llechryd. Rhestrir ef yn mhlith goreuon beirdd ein gwlad; a diamheu fod ganddo law fawr yn nygiad y rhyfel oddiamgylch, ac yn ngosodiad Owen yn flaenor arno. Gwelir pedwar cywydd o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru yn dal cysylltiad â'n harwr. Yn un ohonyut ceir dysgrifiad o Sycharth, ac oddiwrth y dysgrifiad hwnw gellir tybied ei fod yn lle ardderchog iawn — amgylchid y palas gan ddyfr-ffos, tros pa un yr oedd pont-lusg, gan ei. wneud yn amddiffynfa yn ol dull yr oesau hyny. Yr oedd iddo naw neuadd, a naw wardrob yn perthyn i bob' un, a chydmarai y bardd hwynt o ran gwerthfawredd eu cynwysiad i siopau costus Llundain. Perthynai i'r palas berllan a gwinllan; parciau ceirw a cwningod; dolydd gwair a meusydd cywair; melin deg a cholomendy hardd; pysgodlyn, ac ynddo benhwyaid a gwyniaid; seler lawn o ffrwyth y brag a'r winwydden; pabell o bwrpas i groesawu beirdd a chyfeillion, a phob danteithion yn ac oddeutu Sycharth at wasanaeth eu bwrdd. Yna ceir molawd deulu arglwydd hael y lle dedwydd: —

A gwraig oreu o'r gwragedd —
Gwyn 'y myd o'i Gwin a'i mêdd —
A'i blant a ddeuant bob ddau
Nythed teg: o benaethau!
Anodd yn fynych yno
Weled na chliccied na chlo,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.

Ond y mae Sycharth erbyn hyn wedi newid. Pan ymwelodd Mr. George Borrow â'r ardal, dair blynedd yn ol, nid oedd yn aros o Sycharth ond y bryn ar ba un yr adeiladwyd ef; a chraith y ddyfr-ffos heb ei ddileu eto oddiar ei ael. Y mae llwyn o goed gerllaw lle bydd y gwynt ar