Tudalen:Cymru fu.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ordderch i Llywelyn, yn Ngwynedd. Acchlysur y chwildroad hwn oedd gwaith y brenin lorwerth yn gosod treth o bumthegfed ran ar eiddo y Cymry, er mwyn cael arian i ddwyn yn mlaen ei ryfeloedd. Daliwyd Malgwyn, a chrogwyd ef yn Hereford; diweddodd wbwb Morgan mewn cytundeb heddychol; ond yr eiddo Madog oedd yn wydnach ac anhawddach ei ddarostwng. Gorfu i'r brenin ddyfod yn bersonol i Gymru i arwain ei fyddinoedd; teithiodd mor bell a Chonwy, lle y bu agos iddo ef a'i luoedd newynu i farwolaeth oherwydd prinder ymborth, llifogydd yr afon, a gwyliadwriaeth ddyfal y Cymry arnynt. Pa fodd bynag, Madawg a ddaliwyd, ac a ddygpwyd i'r Twr Gwyn, lle y carcharwyd ef am y gweddill o'i oes. Gelwid y trydydd codiad "Gwrthryfel Llywelyn Bren." Brodor o Forganwg oedd Mr. Pren; a bu ei ryfel yn effeithiol i dori rhai o lyffetheiriau y Cymry. Bu agos i ni gael un arall i'w gofrestru, sef rhyfel Syr Gruffydd Llwyd; ond rhwysg byr a gafodd y cynhwrf hwnw, canys daliwyd Syr Gruffydd, carcharwydef yn Nghastell Rhuddlan. ac yn y diwedd torwyd ei ben. Cenedl orchfygiedig oeddynt, balch a dewr, yn gwingo yn erbyn symbylau eu gorthrechwyr, a symbylau digon celyd ac anhawdd eu' goddef. Estroniaid a Chymry anwladgar oedd yn llanw yr holl swyddi buddfawr gwladol; ac er i'r cyfryw wrth weinyddu eu swyddau ymddwyn yn y dull mwyaf tyner, eto camddeonglyd eu gweithredoedd goreu naill âi yn ddirmyg neu yn ddichell Y werin bobl oeddynt wedi cynefino cymaint â chaledfyd rhyfel, fel mai mewn rhyfel, ac nid heddwch, yr oedd eu hanian hwy yn cael boddhad; a chyda'u casineb greddfol at y Sais, a'r casineb hwnw yn cael ei ffrwyno gan heddwch gormesol, bywyd trallodus i'r eithaf a arweinient. Diddymddwyd hefyd gyfreithiau cynhenid y wlad, a gosodwyd y rhai Seisnig yn eu lle; at ba rai yr ychwanegwyd erthyglau trymion, gyda'r bwriad o gospi rhyw ddosparthiadau neillduol o'r Cymry, a dileu hen arferion o natur elynol i'r Saeson. Nid oedd y Cymry i ddwyn unrhyw arfau i'r farchnad drefydd, ffeiriau, nac eglwysydd, tan gosp o golli y cyfryw arfau, a chael eu carcharu am dros flwyddyn. Nid oedd y Cymry i feddu tiroedd o fewn trefydd bwrdeisiol Seisnig, tan y perygl o golli y cyfryw diroedd. Nid oedd hawl gan y Cymro i ddwyn ond un mab i fynu mewn urddau eglwysig. Nid oedd unrhyw Gymro i letya dyeithr-ddyn yn hŵy nag un noson, oddieithr y byddai yn atebol a'm weithredoedd y cyfryw ddyn. Nid oedd yn gyfreithlon i'r Cymry wneud