Tudalen:Cymru fu.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna efe a ymgiliodd i'w gaer cadarn gerllaw Corwen, o'r enw Caer Drewyn.

Pan ganfu Harri fod rhybudd prydlon Esgob Llanelwy yn debyg o gael ei wirio, efe a benderfynodd roddi ei droed breiniol ei hun ar fflam y gwrthryfel. Teithiodd i Gymru gyda phob brys, ymwthiodd mor bell â Llanfaes, yn Mon, lle yr oedd mynachdŷ enwog y pryd hwnw, a'i fynachod yn bleidwyr gwresog i achos Owen; ond yr oedd y fflam yn rhy gref, llosgwyd y troed breiniol wrth geisio diffodd yr oddaith; ac wedi rhoddi rhai o'r mynachod truain hyn i farwolaeth, a dwyn eraill ohonynt yn garcharorion, gorfu iddo ddychwelyd i'w wlad yn waglaw a siomedig. Ni chafodd gymaint ag unwaith y cyfleusdra o frwydr gydag Owen, gan ei fod ef yn rhy gall i anturio ei fyddin fechan yn erbyn 25,000 o wyr y brenin, cynefin â dwyn arfau. Creigiau anhygyrch Eryri a'i castellent; a thra byddai gwyr y brenin mewn llaid a thrallod yn croesi yr afon Gonwy, gallasai Owen sefyll yn eu golwg ar y Penmaenmawr, a rhoddi her i'w holl wrthwynebwyr.

Ar yr 8fed o Dachwedd, gwnaeth y brenin anrheg i'w frawd John, iarll Somerset, o holl etifeddiaethau Glyndwr yn Ngogledd a Deheudir Cymru; ond ni buasai waeth. iddo mo'r llawer ei anrhegu â'r blaned Sadwrn, gan fod dylanwad eu meddianydd mor fawr y pryd hwnw, fel mai efe mewn gwirionedd oedd brenin Cymru — "Rhoi'r croen cyn dal y llew." Gwelodd y brenin nad oedd bygythion a moddion gorfod yn debyg o genedlu heddwch; ac o ganlyniad, cynygiodd delerau heddychol, sef maddeuant cyflawn i'r sawl a dalent warogaeth i'w fab, yn Ngaerlleon Gawr. Y Cymry a'i hatebasant, nad oedd heddwch gyda thrais; a'u bod wedi tynu eu cleddyfau, ac wedi colli eu gweiniau.

Felly y terfynodd y flwyddyn gyntaf yn hanes nodedig y rhyfelawd gwydn hwn.


1401

Ni ddigwyddodd dim pwysig yn ystod haner cyntaf y flwyddyn hon. Yr oedd Owen, er yn ddystaw, yn prysur gasglu nerth; tra yr oedd doethineb yn peri i'r brenin ei adael yn llonydd, gan fod ganddo ef lawer o bynciau eraill trymion yn hawlio ei sylw. Yr oedd ei sefyllfa annghyfeillgar gyda brenin Ffrainc, ei deitlau egwain i'r orsedd, a'r ffaith fod llawer yn ymgilio oddiwrtho, tan edifeirwch oherwydd iddynt droi eu cefnau ar y brenin diweddaf, yn bynciau a wasgent yn drwm ar ei feddwl; ac er mwyn bod