Tudalen:Cymru fu.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyfleus ar gyfer unrhyw anhap, arosodd am fisoedd yn Worcester — yn nghanol ei deyrnas. Ei unig weithred tuag at Gymru oedd caniatau pardwn i bawb a'i ceisent, oddieithr Gwilym a Rhys ab Tudur, a'r sawl oeddynt eisoes yn ngharchar.

Yr haf hwn, Owen a ymdeithiodd tua'r Deheudir, ac a wersyllodd, gyda chwech ugain o'i wyr, ar fynydd Pumlumon — man cyfleus iddo i dderbyn adgyfnerthion o bob cŵr i'r dywysogaeth. O gadarnfeydd y mynydd hwn, ei wyr a ddisgynent i'r gwastad-diroedd cylchynol, gan ladd ac anrheithio y sawl nad arddelent hawliau eu penaeth. Dyoddefodd Sir Drefaldwyn yn dost; gan fod llawer o'i gwyr mawr naill ai yn Saeson, neu a'u gogwydd tuag atynt Dinystriodd brif-dref y sir, ac anrheithiodd y Trallwm a'r Cyffiniau; distrywiodd Fynachlog y Cwmhir, yn sir Faesyfed. Cymerodd gastell Maesyfed, a pharodd i'w wyr ddienyddio triugain o'r ceidwaid yn muarth y Castell. Y mae y creulonderau hyn yn aros heb un rheswm wrth eu cefnau, ond dialedd at bobpeth ag arno eiliw Seisnig. Brychau ar gymeriad pob symudiad ydyw creulondeb; y mae yn hacru y cymeriad dysglaeria; ond cyn y beier Owen, cofier fod hol ryfeloedd y 19eg ganril', hyd yn nod, yn dryfrith o greulonderau cyffelyb.

Yn Rhos Penfro ac Aberteifi. yr oedd nifer o Ffleminiaid, hynafiaid pa rai a ddaethant trosodd i'r Ynys hon oherwydd i'r môr orlifo eu gwlad, a chawsant ganiatad brenin Lloegr i wladychu yn y rhannau hyny o Ddeheubarth Cymru. Yn rhwymyn y gymwynas hono, yr oeddynt yn elyniaethus iawn tuag at Glyndwr, ac yntau atynt hwythau; canys y mae gelyniaeth yn cenedlu gelyniaeth, fel y mae cariad yn cynyrchu cariad. Diau fod ei wyr yn gwneud ymosodiadau mynych arnynt o Pumlumon, gan eu cospi yn dost — mor dost fel y daethant i'r penderfyniad o ddial eu cam, a chael llwyr waredigaeth oddiwrtho. Cynullasant fyddin o fil o wyr traed, a chwe' chant o wyr meirch, a daethant ar warthaf Owen a'i wyr mor ddystaw a disymwth, nes eu hamgylchynu cyn iddynt gael rybudd o fath yn y byd. Nid oedd yn bosibl iddo encilio heb golli pob bywyd tan ei ofal; ac os arosai yn llonydd, nid oedd modd iddynt gael ymborth, a marw o newyn fyddai eu rhan. Penderfynodd dori trwy rengau'r gelyn, neu drengu yn yr ymgais. Yna anerchodd ei filwyr:— " Fy milwyr, y mae ein gelynion o'n cylch, eu trugaredd dyneraf tuag atom fydd ein lladd; ond os marw raid, bydded ini farw fel milwyr, a'n harfau yn ein dwylaw,